O leiaf 45 o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiad bws ym Mwlgaria
23/11/2021
Mae o leiaf 45 o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad bws ym mhrifddinas Bwlgaria yn oriau man bore Mawrth.
Dywed y gwasanaethau brys nad yw'n glir ar hyn o bryd beth achosodd y gwrthdrawiad 26 milltir o Sofia.
Mae Al Jazeera yn adrodd bod saith o deithwyr wedi eu hachub a'u cludo i'r ysbyty yn y brifddinas.
Yn ôl sianel bTV, roedd 12 o blant ar y bws oedd yn teithio o brifddinas Twrci, Istanbul, i Skopje yng Ngogledd Macedonia.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Dimitar Kyosemarliev / AFP/ Wochit