Canslo cannoedd o hediadau o’r DU wedi problem system traffig awyrennau
Mae dros 400 o hediadau o’r Deyrnas Unedig wedi cael eu canslo yn sgil problemau gyda system rheoli traffig awyrennau.
Brynhawn Mawrth, fe gyhoeddodd cwmni NATS, sy’n rheoli traffig tua 15 maes awyr ar draws y DU, fod “problem dechnegol” gyda’u system brosesu hediadau yn atal rhai awyrennau rhag cychwyn ar eu taith.
Mae Maes Awyr Caerdydd ymhlith y cyfleusterau sydd dan reolaeth y cwmni, yn ogystal â chanolfannau pwysig fel Heathrow, Gatwick, Bryste a Manceinion.
Dywedodd y cwmni’n ddiweddarach eu bod wedi cymryd camau i drwsio’r nam a bod “ein system hediadau yn dechrau adfer,” gan rybuddio y gallai hynny gymryd “dipyn o amser.”
Yn ôl gwefan monitro traffig awyr FlightRadar24, roedd tua 425 o hediadau wedi eu canslo erbyn tua 17.00, gan gynnwys 137 hediad EasyJet a 111 gwasanaeth British Airways.
Heathrow, Gatwick, Manceinion a Birmingham sydd wedi cael eu taro waethaf, yn ôl y wefan, sy’n dweud fod tua 4% o holl hediadau’r DU wedi cael eu canslo neu eu gohirio.
Hyd yn oed os yw’r broblem yn cael ei datrys yn sydyn, mae’r digwyddiad yn debygol o achosi trafferthion i deithwyr am nifer o oriau, os nad mwy.
Glanio brys yng Nghaerdydd
Dywedodd Maes Awyr Caerdydd fod y problemau yn effeithio hediadau yno hefyd.
“Mae problem dechnegol sy’n effeithio ar Reolaeth Traffig Awyr NATS yn tarfu rhywfaint ar ymadawiadau hediadau ar draws rhannau o’r DU, gan gynnwys Caerdydd,” meddai’r maes awyr mewn datganiad.
“Anogir teithwyr i wirio gyda’u cwmni hedfan neu weithredwr teithio am y wybodaeth ddiweddaraf am statws eu hediad.”
Ymhlith yr awyrennau sydd bellach yng Nghaerdydd mae awyren British Airways oedd ar y ffordd o Heathrow i Shanghai.
Cafodd yr awyren orchymyn i drio 'nôl oherwydd "problem dechnegol" ond, yn lle glanio yn Llundain, glaniodd yng Nghaerdydd - mwy na thebyg oherwydd y pwysau ar feysydd awyr fel Heathrow yn sgil y broblem gyda NATS, yn ôl FlightRadar24.
Nid dyma’r tro cyntaf i NATS daro’r penawdau. Fis Gorffennaf diwethaf, cafodd hediadau ar draws y DU eu canslo yn sgil problemau gyda radar yng nghanolfan reoli’r cwmni yn Hampshire.
Yn Awst 2023, cafodd dros 1,600 o hediadau eu canslo neu eu gohirio - gan effeithio ar dros 700,000 o bobl - oherwydd problemau technegol yn ymwneud â data taith awyren yn systemau'r cwmni.
Llun: PA/Ellie Crabbe