Newyddion S4C

Paratoi ar gyfer cynghrair pêl-fasged 'cyntaf o'i bath' yng Nghymru

23/11/2021
x

Bydd ysgolion o bob rhan o'r wlad yn teithio i Aberystwyth ddydd Mawrth i baratoi ar gyfer cynghrair pêl-fasged "cyntaf o'i bath" yng Nghymru.

Dyma fydd y digwyddiad cyntaf i nodi partneriaeth rhwng Pêl-fasged Cymru a'r sefydliad pêl-fasged ryngwladol, NBA.

Bydd 32 o dimoedd o bob sir yng Nghymru yn dod i Aberystwyth i baratoi tuag at ddwy gystadleuaeth fawr yn 2022 yng ngogledd a de Cymru.

Bydd pob tîm, sy'n cynnwys merched a bechgyn 11-13 oed, yn cynrychioli un o dimoedd mawr yr NBA, o'r Golden State Warriors i'r Dallas Mavericks.

Yn ôl y trefnwyr, uchelgais y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth am bêl-fasged a diwylliant y gêm yng Nghymru.

Ddydd Mawrth, bydd cyfle i blant ddatblygu sgiliau pêl-fasged, dysgu mwy am ddiwylliant y gêm a'r NBA a bydd sesiynau ar gael i helpu athrawon gyda sgiliau hyfforddi.

Image
x
Bydd Cynghrair Pêl-Fasged Cymru a sefydliad NBA Ieuenctid yn cael ei chynnal yn 2022

Dywedodd arweinydd y prosiect, Jon Bunyan: "Mae'r gynghrair NBA Ieuenctid rhyngwladol ar gyfer bechgyn a merched, yn dysgu'r sgiliau sylfaenol a gwerthoedd craidd y gêm - gwaith tîm, parch, dyfalbarhad a chymuned - ar lawr gwlad, er mwyn datblygu a gwella profiad pêl-fasged ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr a rhieni."

"Ry'n ni wedi aros yn hir iawn i sefydlu cynghrair NBA Ieuenctid yma yng Nghymru.

"Mae wedi gofyn am lawer o waith caled gan grŵp penderfynol o bobl i gyrraedd y pwynt hwn, ac ry'n ni'n edrych ymlaen i groesawu'r ysgolion sy'n cymryd rhan i Aberystwyth."

Ond nid dyna'r diwedd ar gynlluniau'r sefydliad.

Dywedodd Jon Bunyan: "Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Pêl-fasged Cymru yn dilyn camau NBA Ieuenctid i gynnwys cynghrair i ferched yn unig a fydd yn cynrychioli timau'r WNBA (Sefydliad Pêl-fasged Genedlaethol Menywod) a chynghrair pêl-fasged cadair olwyn.

"Ein huchelgais yw datblygu'r gystadleuaeth fel bod sawl ysgol arall yn gallu cystadlu, ac fel y gall mwy o bobl ifanc gael y cyfle i chwarae pêl-fasged." 

Bydd dwy gystadleuaeth yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Bangor ac ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn mis Mawrth 2022, gyda'r rownd derfynol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin.

Lluniau: Pêl-Fasged Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.