£45m i helpu busnesau bach ar 'adeg dyngedfennol'
£45m i helpu busnesau bach ar 'adeg dyngedfennol'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwerth £45m i fynd i'r afael â phrinder gweithwyr a helpu busnesau bach Cymru i dyfu dros fisoedd y gaeaf.
Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf i ateb y galw yn sgil prinder gweithwyr yn y maes lletygarwch, gofal cymdeithasol a gyrwyr lori HGV.
Fel rhan o'r pecyn, bydd £35m yn helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i "ail-ddechrau, datblygu, datgarboneiddio a thyfu" wrth i economi Cymru geisio adfer o'r pandemig.
Bydd £10m ychwanegol yn mynd tuag at hyfforddi gweithwyr.
Yn ôl y llywodraeth, bydd y cyllid yn cefnogi mwy na 1,000 o fusnesau, yn helpu i greu 2,000 o swyddi newydd ac yn diogelu 4,000 o swyddi eraill.
Gyda tharged Llywodraeth Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2050, mae ymrwymiadau i helpu busnesau bach i fod yn fwy gwyrdd hefyd.
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi dweud bod y cyhoeddiad yn un “positif ” ond bod angen edrych yn “hir-dymor ac yn bellach na’r arian yn y pecyn”.
Dywedodd Dr Llyr ap Gareth, Uwchswyddog Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach: "'Dan ni di bod yn aros am gryn dipyn o amser i gael gwbod beth fysa'r fersiwn nesa o'r cefnogaeth busnes i fusnesau bach felly 'dan ni'n falch iawn o weld bod hwn mewn lle.
"'Dan ni'n edrych mlaen i weld o'n mynd allan i fusnesau," ychwanegodd.
"Ar y cyfan, mae'n amlwg yn beth eitha' positif ma' nhw 'di edrych i dargedu y mannau sydd ei angen o, boed hynny'n dreifwyr HGV a hefyd i lletygarwch, ma' rhein yn amlwg yn lefydd lle ma' 'na ddiffyg o weithwyr a sgiliau felly mae'n bwysig bod y gefnogaeth yn cael ei dargedu felly."
Yn dilyn sawl rhybudd gan gwmnïau yng Nghymru am brinder gweithwyr lletygarwch a gofal cymdeithasol, bydd £10m yn mynd tuag at hyfforddi pobl i weithio mewn sectorau sy'n wynebu'r prinder llafur mwyaf.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles y bydd yr arian hwn yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol gan greu 2,000 o swyddi newydd.
Bydd cyllid yn cael ei dargedu'n benodol at ail-gysylltu â; ac ail-hyfforddi staff i ddychwelyd i'r gwaith fel gyrwyr lorïau HGV, yn y sector gofal a lletygarwch.
Dywedodd y Gweinidog Addysg bod angen “ailsgilio unigolion” i ymateb i gyfleoedd gwaith newydd mewn adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy.
'Angen mynd yn bellach na'r arian'
Yn ôl Dr Llyr ap Gareth, mae angen gwneud mwy o waith i hyrwyddo meysydd fel lletygarwch a’u gwneud yn apelgar i bobl.
Dywedodd: "Ma angen edrych ar y system sgiliau sut 'dan ni'n edrych ar ddatblygu llefydd fel lletygarwch i sicrhau bod 'na le i bobl symud i fyny yn eu gwaith nhw, bod y sgiliau sydd yn sicr yno yn cael eu gwerthfawrogi hefyd.
"Felly ma' angen edrych yn yr hir-dymor hefyd, yn bellach na arian sydd ar gael yn y package yma, i geisio datblygu'r sector yna i sicrhau bod 'na le i weithwyr fedru sgilio fyny a i sicrhau fod 'na rhyw fath o 'career progression' yn y swyddi yna hefyd."
Ers dechrau pandemig Covid-19, mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi buddsoddi mwy na £2.5bn mewn cymorth busnes brys, gan helpu i ddiogelu mwy na 160,000 o swyddi.
'Adeg dyngedfennol'
Wrth gyhoeddi'r pecyn ariannol diweddaraf, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae'r pecyn £45m rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddarparu ar adeg dyngedfennol yn ein hadferiad economaidd.
"Mae'n rhoi cyfle i roi hwb i'r economi a thyfu wrth i ni ganolbwyntio ar greu dyfodol tecach, gwyrddach a llewyrchus i Gymru," ychwanegodd.
"Bydd y cyllid yn cynnig cyfle i fusnesau sydd angen ail-fuddsoddi - yn enwedig yn dilyn effaith pandemig y Coronafeirws, ein hymadawiad â'r UE, a chyda golwg ar ddiogelu'r hinsawdd a rhag Covid - y cyfle i wneud hynny, er mwyn ail-lansio, datblygu a thyfu.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adeiladu Cymru gydag economi ffyniannus, deg, werdd, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl."
Bydd y gronfa BBaCh gwerth £35m ar agor ar gyfer ceisiadau cyn diwedd y mis.
Bydd angen gwneud ceisiadau'n uniongyrchol i awdurdodau lleol.