Newyddion S4C

Boris Johnson yn brwydro yn erbyn gwrthryfel mewnol ymysg ei blaid

The Sun 23/11/2021
Boris Johnson HoC ©UK Parliament_Jessica Taylor

Bu'n rhaid i Boris Johnson frwydro yn erbyn gwrthryfel Ceidwadol nos Lun wrth i aelod o'r cabinet ei rybuddio i ostwng trethi er mwyn ei achub yn dilyn wythnosau o ddadlau mewnol.

Daw galwad yr Arglwydd Frost wedi i'r Prif Weinidog dderbyn beirniadaeth am gyflwyno araith am Peppa Pig i gynhadledd fusnes.

Roedd Mr Johnson yn siarad gydag arweinwyr busnes yng nghynhadledd y CBI yn Newcastle, gan addo y byddai'n lleihau trethi.

Fe wynebodd y Prif Weinidog fwyafrif dipyn yn llai nos Lun wrth i 19 Aelod Seneddol Ceidwadol wrthwynebu cynlluniau i gyflwyno cap ar gostau gofal a nifer yn fwy yn ymatal, yn ôl The Sun.

Darllenwch fwy yma.

Llun: ©UK Parliament_Jessica Taylor

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.