Dringo'r Wyddfa ddwywaith yr wythnos i fesur amodau'r gaeaf
Mae dyn o Eryri wedi dechrau ar ei daith flynyddol i gopa'r Wyddfa ddwywaith yr wythnos i fesur yr amodau dan draed.
Dros fisoedd y gaeaf, bydd Stephen Jones o gwmni Anelu Aim Higher yn cynnal asesiad o lefel yr eira a rhew, unrhyw luwchfeydd eira, cyflwr y rhew dan draed, yn ogystal â chyngor cyffredinol.
Yn dilyn ei siwrnai, bydd yn darparu adroddiad manwl ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bwriad y bartneriaeth rhwng Awdurdod y Parc â chwmni Anelu yw sicrhau fod pobl yn ddiogel yn ystod tywydd garw'r gaeaf.
Dywedodd Awdurdod y Parc y bydd pobl yn gallu gwneud penderfyniadau doeth cyn teithio i ardal Eryri i gerdded trwy ddefnyddio'r adroddiadau.
Dywedodd Stephen Jones o gwmni Anelu Aim Higher: “Gyda'r tywydd yn newid i fod yn fwy gaeafol, mae angen cynllunio a pharatoi o flaen llaw os ydych am gerdded llethrau'r Wyddfa.
"Mae'r adroddiadau a’r wybodaeth a ddarparir yn rhoi braslun o'r amodau dan draed ac yn cyfrannu tuag at eich gwybodaeth cyn mentro allan i gerdded y mynyddoedd," ychwanegodd.
'Yr amodau'n gallu newid yn gyflym'
Mae Awdurdod y Parc wedi rhybuddio er bod yr eira yn edrych yn atyniadol, "heb yr offer a’r profiad angenrheidiol gall hyd yn oed yr haen deneuaf o eira neu rew droi rhannau gweddol syml o lwybr yn dipyn o orchest".
Yn ôl Rhys Wheldon-Roberts, Uwch Warden Awdurdod y Parc ar gyfer ardal y Gogledd: “Tra bod yr amodau dan draed ar lethrau isaf yr Wyddfa yn weddol hydrin yn ystod y gaeaf, gall yr amodau newid yn gyflym ac yn sylweddol wrth i chi ddringo’r mynydd, ac yn aml bydd gofyn am gyfarpar arbenigol fel bwyell rhew a chramponau.
"Oherwydd hynny mae’r adnodd yma yn hynod o werthfawr, yn enwedig pan na fydd amodau fel rhew yn amlwg i’r llygad o’r gwaelodion."
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei uwchlwytho ar ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ogystal â'r cyfrif Twitter.
Llun: Hefin Owen