Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C ar fore Llun 15 Tachwedd.
Dyma rai o'r prif straeon o Gymru a thu hwnt.
Cyflwyno pasys Covid mewn theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd
Fe fydd angen pas Covid i fynychu theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd yng Nghymru o ddydd Llun. Mae'r pas - sy'n gallu cael ei ddefnyddio wedi dau frechiad Covid-19 neu ganlyniad prawf negyddol - eisoes wedi bod yn ofynnol mewn clybiau nos a rhai digwyddiadau torfol ers rhai wythnosau.
Presenoldeb yr heddlu yn parhau ar ôl ffrwydrad angheuol mewn car yn Lerpwl
Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau tu allan i ysbyty yn Lerpwl lle bu ffrwydrad angheuol mewn car dros y penwythnos. Bu farw un person ac anafwyd un arall mewn cysylltiad â'r ffrwydrad tu allan i Ysbyty Menywod Lerpwl am 10:59 fore Sul 14 Tachwedd.
'Gwaeth ar y gorwel' i'r bobl dlotaf yng Nghymru
Mae elusen wedi dweud bod y misoedd nesaf yn mynd i daro pobl dlotaf Cymru'n "fwy nag erioed" oherwydd y pandemig. Daw hyn wrth i adroddiad newydd gan bwyllgor Seneddol rybuddio bod "gwaeth ar y gorwel" i bobl sydd mewn dyled ac sy'n methu fforddio costau byw ers y pandemig.
Awstria yn cyflwyno cyfnod clo i’r rhai sydd heb eu brechu
Mae pobl sydd heb eu brechu yn Awstria yn wynebu cyfnod clo o ddydd Llun wrth i gyfraddau Covid-19 gynyddu yn Ewrop. Ni fydd unrhyw un dros 12 oed sydd heb eu brechu yn cael gadael eu cartrefi, oni bai i fynd i’r ysgol, gwaith, ymarfer corff neu brynu nwyddau hanfodol.
Bachgen 9 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gŵyl yn Texas
Mae bachgen 9 oed wedi marw o ganlyniad i anafiadau iddo ddioddef ohonynt mewn gŵyl yn Texas. Roedd Ezra Blout wedi bod mewn coma meddygol o ganlyniad i anafiadau y mae ei deulu yn dweud iddo ddioddef ohonynt ar ôl cael ei sathru yng ngŵyl Astroworld.
Dilynwch yr holl benawdau diweddaraf ar Newyddion S4C drwy gydol y dydd.