Newyddion S4C

Cyflwyno pasys Covid mewn theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd

15/11/2021
sinema

Fe fydd angen pas Covid i fynychu theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd yng Nghymru o ddydd Llun.

Mae'r pas - sy'n gallu cael ei ddefnyddio wedi dau frechiad Covid-19 neu ganlyniad prawf negyddol - eisoes wedi bod yn ofynnol mewn clybiau nos a rhai digwyddiadau torfol ers rhai wythnosau.

Pleidleisiodd y Senedd o blaid ehangu'r defnydd o'r pasys mewn pleidlais ddydd Mawrth.

Mae'n un o gyfres o fesurau mae'r llywodraeth wedi ei gyflwyno er mwyn ceisio cyfyngu ar y nifer o achosion Covid-19.

Mae newidiadau hefyd i'r drefn hunan-ynysu a mwy o bwyslais ar annog pobl i weithio o adref.

Nid oedd y penderfyniad i gyflwyno'r pasys wedi ei gefnogi gan bob plaid, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwestiynu’r angen amdanynt.

Image
covid pass
Mae pasys Covid wedi bod yn ofynnol mewn clybiau nos a digwyddiadau torfol yng Nghymru ers mis Hydref. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai'r cynllun pasys Covid gael ei ymestyn ymhellach i gynnwys y diwydiant lletygarwch os nad oedd cyfraddau yn disgyn.

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu fod y gyfradd o achosion fesul 100,000 o bobl yn parhau i ostwng.

Ddydd Sul, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y gyfradd wedi syrthio o 477.5 i 469.3 fesul 100,000 o bobl.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Cyflwynwyd y Pàs COVID ychydig dros fis yn ôl ar gyfer mynediad i glybiau nos a digwyddiadau dan do ac awyr agored mwy. Mae'r adborth a gawsom yn awgrymu bod y system yn gweithio'n dda. 

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sectorau sy'n cyflwyno'r Pàs i'w cefnogi."

Bydd adolygiad nesaf y llywodraeth o reoliadau coronafeirws Cymru ar 19 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.