Awstria yn cyflwyno cyfnod clo i’r rhai sydd heb eu brechu
Mae pobl sydd heb eu brechu yn Awstria yn wynebu cyfnod clo o ddydd Llun wrth i gyfraddau Covid-19 gynyddu yn Ewrop.
Ni fydd unrhyw un dros 12 oed sydd heb eu brechu yn cael gadael eu cartrefi, oni bai i fynd i’r ysgol, gwaith, ymarfer corff neu brynu nwyddau hanfodol.
Mae’r cyfnod clo yn effeithio £8.9m o’r boblogaeth, yn ôl Sky News, a bydd mewn grym am 10 diwrnod cyn adolygiad.
Mae Wolfgang Mückstein, gweinidog iechyd Awstria, wedi rhybuddio y gallai’r wlad weld rhagor o gyfyngiadau, megis cyrffiw 22:00 ar gyfer yr holl boblogaeth.
Dywed Sky News fod Ewrop yn gyfrifol am dros hanner o achosion y byd ar gyfartaledd yn ystod y saith diwrnod diwethaf, a hanner o’r marwolaethau diweddaraf.
Nid yw’r cyfraddau wedi bod mor uchel â hyn ers Ebrill 2020, pan roedd Covid-19 yn ei anterth yn yr Eidal.
Darllenwch y stori’n llawn yma.