'Gwaeth ar y gorwel' i'r bobl dlotaf yng Nghymru
'Gwaeth ar y gorwel' i'r bobl dlotaf yng Nghymru
Mae elusen wedi dweud bod y misoedd nesaf yn mynd i daro pobl dlotaf Cymru'n "fwy nag erioed" oherwydd y pandemig.
Daw hyn wrth i adroddiad newydd gan bwyllgor Seneddol rybuddio bod "gwaeth ar y gorwel" i bobl sydd mewn dyled ac sy'n methu fforddio costau byw ers y pandemig.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn rhybuddio bod "mwy o bobl yn mynd i ddyled nawr er mwyn cwrdd â hanfodion bob dydd".
Mae hynny'n cynnwys rhybudd am bobl yn ei chael hi'n anodd i dalu biliau neu dreth y cyngor a bod prisiau bwyd a thanwydd yn mynd i "wthio pobl i dlodi dyfnach y gaeaf hwn".
Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywdoraeth Cymru "i barhau i gefnogi pobl" sydd yn cael trafferth gyda chostau byw gan ychwanegu "nad yw effaith llawn y pandemig wedi’n taro ni eto."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu miliynau o bunnoedd drwy'r Gronfa Gwydnwch Economaidd (ERF) a'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) i helpu pobl sydd wedi ei chael hi'n anodd.
'Gwir ofid'
Yn ôl Dr Steffan Evans o'r Sefydliad Bevan, mae'r misoedd nesaf am fod yn rhai caled i bobl sydd yn wynebu dyledion.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'r tystiolaeth yn glir hyd yma taw'r aelwydydd a'r teuluoedd sydd yn barod y mwya' difreintiedig yw'r rheiny sydd wedi'u effeithio galeta' gan y pandemig yn economaidd ac sydd fwya debygol o syrthio mewn i ddyled," meddai.
"Ni'n gwybod gyda'r pwysau o'r misoedd diwethaf o gostau byw a hefyd toriadau ar y system les, mae'n mynd i wasgu'r teuluoedd hynny'n bellach.
"Mae yna wir ofid bod y teuluoedd hynny oedd yn cael hi'n anodd yn mynd i gael hi'n hyd yn oed yn anoddach eto wrth bo ni'n mynd trwy'r Gaeaf."
Mae ymchwil y Sefydliad Bevan yn dangos bod 10% o aelwydydd yng Nghymru "ar ei hôl hi" gyda thalu eu biliau tra bod 230,000 o deuluoedd wedi gorfod benthyg arian rhwng diwedd 2020 a Mai 2021.
"Mae'r niferoedd yn frawychus o uchel o ran teuluoedd sydd wedi - mewn cyfnod eitha diweddar - di gorfod benthyg, di gorfod syrthio tu ôl," meddai Dr Evans.
'Effaith llawn y pandemig heb ei deimlo eto'
Mewn ymateb i'r "argyfwng sydd ar y gorwel", mae'r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o sicrhau fod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd Sgôr Effeithlonrwydd Ynni A er mwyn "lleddfu'r pwysau sydd ar bobl wrth i bris tanwydd gynyddu".
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Rydym yn wynebu gaeaf lle mae prisiau tanwydd a chostau bwyd ar gynnydd ac ar yr un pryd mae’r gefnogaeth allweddol a gafwyd gan y llywodraeth yn ystod y pandemig, a wnaeth gymaint i gadw pobl ar eu traed, yn dod i ben.
"Mae'n amlwg nad yw cartrefi ledled y wlad eto wedi dechrau teimlo effeithiau llawn y pandemig ar eu sefyllfa ariannol.
“Mae’n ddychrynllyd bod mwy o bobl bellach yn cymryd benthyciadau i dalu biliau, neu i brynu bwyd, nid ar gyfer eitemau ‘moethus’."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Trwy gydol y pandemig rydym wedi gweithio’n galed i amddiffyn iechyd a bywoliaeth pobl.
"Rydym wedi darparu miliynau o bunnoedd drwy'r Gronfa Gwydnwch Economaidd (ERF) a'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) i ddiogelu swyddi a helpu pobl sydd wedi ei chael hi'n anodd," ychwanegodd.
“Rydym yn diolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar y pwnc pwysig hwn a byddwn yn ymateb i’w adroddiad maes o law.”