Newyddion S4C

Bygythiad terfysgol 'difrifol' i'r DU wedi'r ffrwydrad yn Lerpwl

Sky News 15/11/2021

Bygythiad terfysgol 'difrifol' i'r DU wedi'r ffrwydrad yn Lerpwl

Mae lefel y bygythiad terfysgol yn erbyn y DU wedi codi o fod yn "sylweddol" i fod yn un "difrifol" - gyda "thebygolrwydd uchel" o ymosodiad medd yr awdurdodau.

Yn gynharach ddydd Llun, fe gafodd ffrwydrad y tu allan i Ysbyty Merched Lerpwl fore dydd Sul ei gofnodi  fel "digwyddiad terfysgol" gan yr heddlu.

Ffrwydrodd tacsi ychydig cyn 11:00 mewn parth gollwng ger mynedfa’r ysbyty, gan ladd y teithiwr ac anafu'r gyrrwr.

Mae gyrrwr y tacsi, sydd wedi ei enwi yn lleol fel David Perry, wedi cael ei ddisgrifio fel 'arwr' gan Faer Lerpwl, Joanne Anderson, am gloi'r sawl sydd dan amheuaeth tu mewn i'r cerbyd.

Mae pedwar dyn wedi eu harestio, gyda tri o'r pedwar yn cael eu holi dan rymoedd y Ddeddf Terfysgaeth. 

Darllenwch y stori'n llawn gan Sky News yma.

Llun: Imago Images/Wotchit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.