‘Mae dawnsio bale yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru’

‘Mae dawnsio bale yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru’

Mae cwmni cenedlaethol Ballet Cymru wedi ymateb i sylwadau gan yr actor Hollywood Timothee Chalamet, sydd wedi honni nad oedd cynulleidfaoedd yn “poeni” am ddawnsio bale na’r opera. 

Mae’r actor, sydd wedi ei enwi fel ffefryn i ennill sawl gwbor yn yr Oscars wythnos nesaf, wedi derbyn beirniadaeth yn dilyn ei sylwadau. 

Dywedodd Amy Doughty, cyfarwyddwr artistig ymgysylltu a hyfforddi gyda Ballet Cymru, er bod y sylwadau wedi ei gwneud hi’n grac nad oedd hi "wedi synnu" gydag agwedd Chalamet.

“Dwi’n credu ei fod yn dod o le o anwybodaeth, a diffyg dealltwriaeth o’r gwaith rydym ni yn gwneud o fewn y diwydiant.

“Mae yn syniad hen ffasiwn iawn o beth yw bale erbyn heddiw. Mae’n cael ei weld fel rhywbeth elitaidd, ond mae wedi symud ymlaen gymaint dros y blynyddoedd diwethaf.”

'Bychanu'r holl waith'

Ychwanegodd Robbie Moorcroft, sydd yn rhan o’r tîm hyfforddi yn Ballet Cymru, bod sylwadau fel rhai Chalamet yn “brifo” artistiaid.

“Dyw e ddim yn rhywbeth neis i glywed am dan y peth rydyn ni wedi adeiladu ein bywydau o’i hamgylch.

“Mae’n gwneud i ni deimlo fel bod dim gwerth i’r hyn rydyn ni yn ei wneud.”

Fe ychwanegodd Amy Doughty bod sylwadau fel hyn ddim yn "gwerthfawrogi'r ymrwymiad" mae gymaint o bobl yn ei roi at y ddawns bale. 

“Mae yn bychanu'r holl waith, ymdrech, ffocws ac ymrwymiad mae pobl yn eu rhoi iddo. Mae’n rhywbeth sydd yn bwysig iawn i lawer o bobl.”

Image
Gwenllian Davies
Mae Gwenllian Davies yn dweud iddi gael ei denu at ddawnsio bale drwy wrando ar y gerddoriaeth a dawnsio yn y gegin.

Mae Gwenllian Davies, 28 oed, yn ddawnswraig broffesiynol gyda Ballet Cymru, ac wedi bod yn dawnsio bale ers iddi fod yn 11 oed. 

“Ges i fy nenu at ddawnsio bale drwy wrando ar y gerddoriaeth a dawnsio yn y gegin.

“Dwi wedi bod yn dod i wylio perfformiadau Ballet Cymru ers i mi fod yn ferch ifanc, ac roeddwn yn rili joio gwylio pobl go iawn, ar lwyfan, yn adrodd straeon go iawn.”

Mae Gwenllian wedi rhoi clod i’w haddysg yng Nghymru, sydd wedi rhoi cyfle iddi fynegi ei chariad at y celfyddydau.

“Dwi yn cofio mynd i’r ysgol, yma yng Nghymru, a dysgu am y celfyddydau bron pob dydd, drwy ddarllen barddoniaeth, canu, neu gystadlu yn yr Eisteddfod. 

“'Nath o wir rhoi cyfle i fi ffeindio fy hunain fel artist.”

Mae Gwenllian hefyd yn credu bod dawnsio bale yn bwysig i ddiwylliant Cymru.

“Dwi’n credu fod y celfyddydau mor bwysig i ddiwylliant Cymru.

“Fel Cymry, mae gyda ni hanes hir iawn o gymryd rhan yn y celfyddydau, ac mae’n bwysig cario hwnna ymlaen, ond hefyd newid gyda’r amser a thrio ffeindio ein ffordd yn y byd modern.”

“Mae’n gamsyniad enfawr fod bale ond ar gyfer pobl gyfoethog ac yn rhyw fath o ‘high art’. Mae fe yn rili bwysig ei fod e i bawb. 

“Rydyn ni yn trio adlewyrchu hynny yn y gwaith rydym ni yn wneud yma. Ni mynd i ysgolion ac yn siarad â phlant o bob oedran a bob cefndir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.