Cau llwybr yr arfordir yn Llŷn o achos 'amodau hynod beryglus'

Llwybr arfordir
Mae llwybr yr arfordir wedi gorfod cael ei gau mewn dau leoliad ym Mhen Llŷn, a hynny oherwydd "amodau hynod beryglus o dan draed." 
 
Mae rhannau o'r llwybr rhwng Traeth Towyn a Phorth Ychain ger Tudweiliog ac o Borthor i Anelog wedi eu heffeithio. 
 
Mae’r penderfyniad yma wedi ei wneud i "warchod lles defnyddwyr, a gofynnir yn garedig i’r cyhoedd osgoi yr ardal a dilyn y llwybr amgen sydd ar gael am y tro."
 
Mae Tîm Llwybr Arfordir Cymru Cyngor Gwynedd yn monitro’r sefyllfa ar hyn o bryd.
 
Bydd diweddariad yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
 
Ddiwedd mis Ionawr bu'n rhaid cau rhan arall o'r llwybr yn Llŷn wedi i lyncdwll ymddangos yn ardal Trefgraig, Bodferin yn Llangwnnadl.
 
Ddechrau mis Rhagfyr cafodd llwybr troed Penrallt yn Nefyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru, ei gau i gerddwyr yn dilyn tirlithriad. 
 
Llun: Llwybr Arfordir Cymru


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.