Bachgen 9 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gŵyl yn Texas
15/11/2021
Mae bachgen 9 oed wedi marw o ganlyniad i anafiadau iddo ddioddef ohonynt mewn gŵyl yn Texas.
Roedd Ezra Blout wedi bod mewn coma meddygol o ganlyniad i anafiadau y mae ei deulu yn dweud iddo ddioddef ohonynt ar ôl cael ei sathru yng ngŵyl Astroworld.
Ef yw’r ieuengaf o’r 10 person fu farw wedi digwyddiad yn ystod perfformiad Travis Scott ar 5 Tachwedd.
Cafodd cannoedd eu hanafu pan wnaeth y dorf ddechrau gwthio tuag at y llwyfan.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Annie Mulligan trwy The New York Times