Beth mae Andy Burnham wedi ei gyhoeddi yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur?
Bydd Llafur yn “addasu” y clo triphlyg ar bensiynau o 2030 ymlaen, meddai Andy Burnham.
Wrth siarad yng nghynhadledd ei blaid yn Lerpwl, dywedodd Andy Burnham y byddai’n dileu’r cysylltiad blynyddol rhwng codiadau ym mhensiwn y wladwriaeth ac enillion cyfartalog.
Fe fyddai hynny yn arwain at “arbedion sylweddol” ac yn caniatáu ariannu ei gynlluniau gofal cymdeithasol, meddai.
Nid yw'n amlwg eto sut bydd y cynlluniau gofal cymdeithasol yn effeithio ar Gymru, lle mae iechyd wedi ei ddatganoli.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai pensiynau’n parhau i godi o leiaf 2.5% bob blwyddyn.
Mewn araith emosiynol, ar ôl marwolaeth ei dad Roy yn gynharach y mis hwn, dywedodd Mr Burnham: “Wna i ddim smalio na fydd rhywfaint o hyn yn anodd. Rwy’n derbyn y gallai fod pris gwleidyddol i’w dalu.
“Ond mae’n rhaid i rywun fynd drwy’r boen a thynnu’r plaster i ffwrdd. Dyma’r arweinyddiaeth wnes i ei haddo i chi pan ofynnais i chi fy newis yn arweinydd.
“Fe wnaethon ni addo yn ein maniffesto i gadw’r clo triphlyg yn ddigyfnewid drwy gydol tymor presennol Senedd San Steffan. Rydw i’n mynd i gadw’r addewid hwnnw.
“Ym mis Ebrill 2030, byddwn yn ei addasu. Bydd pensiwn y wladwriaeth yn parhau i godi bob blwyddyn o leiaf yn unol â phrisiau neu 2.5%.
“A bydd yn cadw ei werth o’i gymharu ag enillion dros amser fel y bydd pensiynwyr bob amser yn rhannu yn ffyniant cynyddol y genedl.
“Ond bydd y newid hwn yn arwain at arbedion sylweddol y byddwn yn eu defnyddio i ddatblygu ein Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.”
‘Opsiynau’
Dywedodd hefyd y bydd Llafur yn ymladd yr etholiad nesaf gydag ymrwymiad i newid y system ‘y cyntaf i’r felin’. Dyma’r system sy’n cael ei defnyddio yn etholiadau Senedd San Steffan.
Dywedodd Mr Burnham hefyd fod angen i’r DU benderfynu ar ei “pherthynas hirdymor” â’r Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth addo amlinellu “opsiynau” ar gyfer y berthynas â Brwsel tua adeg yr uwchgynhadledd fawr rhwng y DU a’r UE yn ddiweddarach eleni.
Roedd llais Mr Burnham yn torri wrth iddo ddweud: “Y Deyrnas Unedig roedd fy nhad yn ei chynrychioli yw’r un rwy’n credu ynddi.”
Wrth amlinellu ei gynlluniau ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol newydd, dywedodd ei fod am greu “consensws cenedlaethol” arnyn nhw.
Mae’r cynlluniau yn cael eu llunio ar ôl ymgynghoriad gan y Farwnes Louise Casey.