Apêl am wybodaeth wedi i gorff babi gael ei ddarganfod ar lan y Fenai

Corff babi ar lan y Fenai

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff babi newydd-anedig gael ei ddarganfod ar lan afon Menai ym Mangor brynhawn dydd Sul.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn y gobaith o ddod o hyd i fam y babi ar frys.

Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd fod y corff wedi ei ddarganfod ger Ffordd Siliwen yn y ddinas ychydig cyn 17:00 dydd Sul.

Mae'r crwner yn ymwybodol o'r farwolaeth ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal brynhawn dydd Mercher.

Fe fydd mwy o swyddogion yn yr ardal dros y dyddiau nesaf yn cynnal ymholiadau, ac mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynnu 'Operation Melex'.

Mae modd hefyd ffonio llinell gymorth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar 03000 851 234 rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i dydd Gwener.

'Pryder gwirioneddol'

Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau i Ferched ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae gennym bryderon gwirioneddol am iechyd y fam.

“Rydym yn cydnabod ei bod hi’n debygol o fod yn hynod agored i niwed. Efallai ei bod hi’n ofni ceisio’r gefnogaeth sydd ei hangen arni rhag ofn y bydd hi’n datgelu pwy ydy hi".

Wrth apelio’n uniongyrchol at y fam, ychwanegodd: “Yn gyntaf, rwyf am i chi wybod mai eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles yw ein prif bryder ar hyn o bryd. 

"Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo ofn, eich bod wedi’ch llethu neu’n ansicr am beth i’w wneud nesaf.

“Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych unrhyw un i droi atynt, neu na allwch siarad ag unrhyw un am yr hyn sydd wedi digwydd. Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun.

“Dydyn ni ddim yn gwybod eto yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â marwolaeth eich babi, ond yr hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd yw ein bod ni'n dod o hyd i chi, yn sicrhau eich bod chi'n ddiogel, ac yn sicrhau eich bod yn cael unrhyw sylw meddygol a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch.

“Rwy'n gofyn i chi'n bersonol, os gwelwch yn dda, gysylltu â ni. Gallwch siarad â gweithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd, mynd at swyddog heddlu neu fynd i orsaf yr heddlu.

“Cymerwch y cam cyntaf a chysylltu â ni, os gwelwch yn dda. Mae pobl yno i'ch helpu.”

'Apêl uniongyrchol'

Dywedodd y Rhingyll Dditectif Kelly Wynne o Heddlu'r Gogledd: “Rydym yn pryderu efallai nad yw mam y babi mewn sefyllfa i geisio cymorth, felly rydym yn apelio’n uniongyrchol ati hi, at y tad ac at y rhai a allai fod â gwybodaeth, fel ffrindiau, teulu, cymdogion neu gydweithwyr.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth am fenyw neu ferch rydych chi’n meddwl a allai fod wedi bod yn feichiog, neu y mae ei hymddygiad wedi bod yn anarferol neu’n wahanol i’r arfer dros y misoedd diwethaf - gan gynnwys ymddieithrio oddi wrth ffrindiau, teulu neu gysylltiadau cymdeithasol - cysylltwch â ni.

“Rydym yn deall bod camu ymlaen yn anodd, ond nid yw peidio â gwneud dim yn opsiwn.

“Mae angen cymorth ar y fam yn ddybryd. Os oes gennych wybodaeth, mae angen i chi wneud y peth iawn i sicrhau bod y fam hon yn cael y cymorth iechyd sydd ei angen arni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.