Y Cymro cyntaf i goncro Everest yn awgrymu y dylai'r llywodraeth ariannu timau achub

Newyddion S4C

Y Cymro cyntaf i goncro Everest yn awgrymu y dylai'r llywodraeth ariannu timau achub

Dydy'r pwysau cynyddol sydd ar dîm achub mynydd prysuraf Cymru ‘ddim yn gynaliadwy’ yn ôl y sefydliad. 

Ym mis Awst mi brofodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu mis prysuraf ar gofnod - 59 o ymgyrchoedd achub, gyda galw am newid mewn diwylliant gan gerddwyr. 

Mae’r Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest hefyd wedi awgrymu mewn cyfweliad â Newyddion S4C  y dylid ystyried gwneud Timau Achub yn wasanaeth cenedlaethol sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw  “mewn cysylltiad â'r timau achub mynydd i drafod pa gymorth y gellir ei gynnig."

Ers 2020 mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi profi cynnydd o tua 15% - 20%  bob blwyddyn sef nifer y galwadau y maen nhw’n eu derbyn. 

Er eu bod nhw wedi recriwtio tua 30 o wirfoddolwyr yn rhagor eleni gan ddod â'r nifer i tua 70 o wirfoddolwyr mae nhw’n dweud fod y pwysau sy’n wynebu’r tîm yn ormod a bod yn rhaid i rywbeth newid. 

“Cychwyn y flwyddyn yma, oedda ni’n ei weld o ac yn rili stryglo fel tîm”, meddai Tom Carrick, un o’r gwirfoddolwyr. 

“O'dda ni’n cael galwadau yn dod i mewn ym mis Chwefror ac yn gorfod galw ar dimau eraill yn yr ardal i gefnogi ni," meddai. 

“Yn barod y flwyddyn yma ‘da ni ar fath â 350 o alwadau a rhai dyddiau yn yr haf yn derbyn 10 galwad mewn diwrnod."

Wrth siarad â Newyddion S4C, fe ddywedodd Mr Carrick os bydd yr un cynnydd yn parhau, nad yw'n credu y bydd modd “delio efo fo" am ei fod eisoes yn "mynd yn anodd".

Image
Graff Galwadau Timau Achub

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol sydd wedi cael ei rannu ddegau o filoedd o weithiau, mae’r tîm yn dweud mai eu prif bryder ydi’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld heb baratoi ar gyfer yr amodau: “Mae llwybrau a oedd unwaith yn cael eu mentro’n bennaf gan gerddwyr mynydd profiadol bellach yn denu mwy o bobl sydd ag ychydig iawn neu ddim profiad o gwbl”

“Gall ffotograff neu fideo o Grib Goch wneud i’r ddringfa radd un agored ymddangos fel pe bai’n ddim mwy na llwybr arferol i’r copa. 

Ond yr hyn nad yw’n ei ddangos yw pa mor frawychus y gall y grib honno fod mewn cwmwl, glaw neu wyntoedd cryfion, na pha mor gyflym y gall sefyllfa reoledig droi’n argyfwng difrifol”.

Image
Caradoc
Caradoc Jones - y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest

Ym 1995, Caradoc Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest ac ers hynny mae o wedi dringo rhai o fynyddoedd prysuraf a pherycla’r byd.

Addysg

Tra’n croesawu’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n mentro ac yn chwilio am antur, mae hefyd yn dweud fod angen newid mewn diwylliant gan rheini sy’n teithio i’r mynyddoedd heb brofiad. 

Mae'n dweud fod nifer yn cael eu denu a’u swyno gan ddelweddau ar gyfrifon cymdeithasol, a bod angen negeseuon cyson i rybuddio pobl o’r peryglon.

“Mae’n rhaid fod na rhyw fath o newid yn digwydd a buaswn i’n gobeithio os buasa' swyddog social media gyda’r timau achub hyn [...] y buasa rhyw interception”, meddai. 

Yn y bôn, mae’n dweud bod angen rhybuddio pobl yn fwy cyson o’r peryglon. 

Wrth gael ei holi a fyddai’n croesawu newid yn y model ariannu ac i’r llywodraeth wneud hynny, cytunodd. 

“Yn sicr 'swn i’n meddwl, ac i hynny ddod law yn llaw efo’r system addysg i roi’r wybodaeth i bobl.

“Os gallwn ni wneud hynna dros social media gallwn ni gael pobl i baratoi yn well."

Image
Tom Carrick
Tom Carrick - un o'r gwirfoddolwyr

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis, tra bod eu gwirfoddolwyr wrth eu boddau â'u gwaith mae'n bwysig cydnabod y straen mae’r gwaith yn ei gael hefyd gyda nifer yn gorfod wynebu sefyllfaoedd heriol, a delio gyda thrawma.

“'Da ni 'di cael 30 o wirfoddolwyr yn ychwanegol yn ymuno â’r tîm," meddai Tom Carrick. 

“'Da ni ym mis Medi 'wan, ac yn barod ‘da ni’n gweld lot fawr o burnout rhwng aelodau sydd 'di bod yma ers blynyddoedd a rhai newydd hefyd.

“Y pwynt yma ydi faint yn fwy allwn ni gadw hwn i fynd?”

Dros yr haf mi gyhoeddodd Heddlu'r Gogledd y byddai'n sefydlu tîm newydd a fyddai'n gwella eu hymateb i ddigwyddiadau tebyg - y cyntaf yng Nghymru a Lloegr. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu “timau achub mynydd yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl ledled Cymru, yn aml mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a'u gwaith caled”.

"Rydym yn cydnabod yn ein rhaglen lywodraethu y rhan bwysig mae'r sector gwirfoddol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym mewn cysylltiad â'r timau achub mynydd i drafod pa gymorth y gellir ei gynnig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.