Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

02/11/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C ar fore Mawrth, 2 Tachwedd.

Dyma gipolwg ar rai o straeon y bore.

COP26: 'Bosib mai'r ffordd orau ymlaen yw i drin cig fel caviar'

Mae gwyddonydd blaenllaw wedi dweud mai’r "ffordd orau" o fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr y diwydiant amaeth yw i newid agweddau tuag at fwyta cig eidion. “Mae’n bosib na’r ffordd orau ymlaen yw i drin cig fel caviar,” meddai’r Athro Emeritws Gareth Wyn Jones.

Pob ysgol a choleg newydd i ddilyn targedau Carbon Sero-Net

Bydd yn rhaid i bob prosiect adeiladu ysgol neu goleg newydd yng Nghymru ddilyn targedau Carbon Sero-Net o ddechrau’r flwyddyn nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles: “Mae sicrhau bod adeiladau’r dyfodol yn gwneud cyfraniad positif yn gam pwysig y gallwn ni ei gymryd."

Ffrainc yn cefnu ar fygythiadau i wahardd cychod Prydain o’u porthladdoedd

Mae Ffrainc wedi cefnu ar fygythiadau i wahardd cychod Prydeinig o borthladdoedd Ffrenig wrth i’r ddwy wlad barhau i anghytuno dros drwyddedau pysgota yn nyfroedd y DU wedi Brexit. Mae Downing Street wedi croesawu’r penderfyniad ac wedi dweud y byddant yn parhau gyda’r trafodaethau “trylwyr”.  

Mwy na 100 o wledydd yn ymrwymo i warchod coed y blaned

Mae dros 100 o wledydd wedi addo rhoi diwedd a cheisio gwrthdroi colli coedwigoedd erbyn diwedd 2030. Caiff yr addewid ei gefnogi gan $19bn o arian preifat a chyhoeddus fydd yn gwarchod coedwigoedd. 

Noson oeraf yr hydref hyd yma

Nos Lun oedd noson oeraf tymor yr hydref hyd yma yng Nghymru. Fe blymiodd y tymheredd i 0°C ym Mrynbuga, Sir Fynwy ac ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf drwy gydol y dydd ar wefan ac ap Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.