COP26: 'Bosib mai'r ffordd orau ymlaen yw i drin cig fel caviar'
COP26: 'Bosib mai'r ffordd orau ymlaen yw i drin cig fel caviar'
Mae gwyddonydd blaenllaw wedi dweud mai’r "ffordd orau" o fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr y diwydiant amaeth yw i newid agweddau tuag at fwyta cig eidion.
“Mae’n bosib na’r ffordd orau ymlaen yw i drin cig fel caviar,” meddai’r Athro Emeritws Gareth Wyn Jones.
Mae undeb amaethyddol yr NFU yn dadlau mai camgymeriad yw canolbwyntio ar ostwng ein defnydd o gig yn ein diet, gan ddadlau fod ffyrdd eraill o gyrraedd y nod o greu diwydiant Sero-Net.
Roedd yr Athro Wyn Jones, sy’n arbenigo mewn biowyddorau a newid hinsawdd, yn siarad ar raglen Ffermio S4C, mewn pennod i nodi uwchgynhadledd COP26.
Un o’r amcanion fydd yn cael sylw yn y gynhadledd newid hinsawdd yng Nglasgow fydd lleihau nwyon tŷ gwydr, sy’n creu blanced boeth o amgylch y ddaear, ac yn arwain at gynhesu byd eang.
Amaethyddiaeth sy’n gyfrifol am oddeutu 12% o allyriadau Cymru, gyda llawer ohonynt yn fethan o dda byw.
Mae methan yn cael ei gynhyrchu gan wartheg, defaid a geifr wrth iddynt dreulio eu bwyd, ac mae’n un o’r nwyon tŷ gwydr cryfaf.
'Maen nhw'n rhan o'r broblem'
Yn ôl yr Athro Wyn Jones, “mae’n rhaid i ffermwyr leihau nwyon tŷ gwydr”.
“Maen nhw’n rhan o’r broblem, ac maen nhw’n gorfod ymateb i’r broblem,” meddai.
Ychwanegodd: “Dwi’n hollol ffyddiog hefo ffermio defaid eu bod nhw’n gallu cael eu hallyriadau lawr i sero carbon yn weddol rhwydd.
“Ond gwartheg ydy’r broblem,” meddai.
Mae’r gwyddonydd yn rhagweld y bydd cig eidion yn datblygu i fod yn fwyd sy’n cael ei fwyta ar achlysuron arbennig yn unig yn y dyfodol.
“Mae’n bosib na’r ffordd orau mlaen fydd bwyta cig fel caviar, rywbeth arbennig iawn da chi’n ddefnyddiol yn achlysurol.”
Ychwanegodd y byddai hyn yn berthnasol ar gyfer cig eidion sy’n cael ei gynhyrchu ar fryniau Cymru, fel sydd yn digwydd heddiw.
Mewn cyfweliad gyda’r cyflwynydd Daloni Metcalfe, awgrymodd ei fod yn agored i’r syniad o weld gwartheg yn cael eu cadw mewn siediau, gan ddefnyddio dulliau sy’n ailgylchu ac yn prosesu’r nwyon y maent yn eu cynhyrchu.
“Mae ‘na dechneg sydd wedi cael ei ddatblygu’n ddiweddar yng Nghanada sy’n bachu’r methan o’r siediau ac yn eu droi’n garbon deuocsid.
“Gan fod methan yn nwy tŷ gwydr ‘cryfach’ na charbon deuocsid, mae gwneud hynny yn fanteisiol.
Eglurodd nad oes yna fawr o opsiynau i ffermwyr oni bai am addasu eu dulliau, ac o bosib, droi cefn ar y ffordd draddodiadol o fagu gwartheg ar borfeydd.
“Be di’r opsiynau sy gynnoch chi?” gofynnodd.
“Mae’n gymhleth iawn – y gwartheg ydy’r broblem – dwi ddim yn poeni am y defaid, mae’n gymharol hawdd sortio hwnna allan, ond dio ddim mor hawdd sortio’r broblem hefo’r gwartheg.”
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi argymell fod y diwydiant amaeth yn lleihau eu hallyridau o 95% erbyn 2050, sy’n darged mwy uchelgeisiol na gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae undeb amaeth yr NFU eisoes wedi cyhoeddi eu cynlluniau i gyrraedd Sero-Net erbyn 2040, sydd 10 mlynedd yn gynt na’r un targed gan Lywodraeth Prydain.
Ond yn gyffredinol mae’r diwydiant yn dueddol o wrthod galwadau y dylid cyfyngu ar faint o gig sy’n cael ei fwyta, ac yn mynnu fod modd ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy.