Ffrainc yn cefnu ar fygythiadau i wahardd cychod Prydain o’u porthladdoedd
Mae Ffrainc wedi cefnu ar fygythiadau i wahardd cychod Prydeinig o borthladdoedd Ffrenig wrth i’r ddwy wlad barhau i anghytuno dros drwyddedau pysgota yn nyfroedd y DU wedi Brexit.
Fe wnaeth Paris fygwth atal cychod Prydeinig rhag pysgota a chynnal ymchwiliadau o loriau sy’n teithio i ag yn ôl o’r Deyrnas Unedig, medd Sky News.
Ond yn hwyr nos Lun fe wnaeth yr Arlywydd Emmanuel Macron gadarnhad wrth y wasg y byddai sancsiynau o’r fath yn cael eu gohirio wrth i’r ddwy wlad gynnal trafodaethau.
Mae Downing Street wedi croesawu’r penderfyniad ac wedi dweud y byddant yn parhau gyda’r trafodaethau “trylwyr”.
Cafodd cwch bysgota Prydeinig ei chadw ym mhorthladd Le Havre wythnos diwethaf yn dilyn tensiynau dros drwyddedau pysgota wedi Brexit.
Fe gafodd y cwch ei dal gan fod Ffrainc yn anfodlon gyda’r trwyddedau sydd wedi eu rhoi i gychod pysgota Ffrenig sydd yn llai na 12 metr.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Pekka Nikrus