Newyddion S4C

Ffrainc yn cosbi dau o’r DU wrth i anghydfod dros hawliau pysgota ddwysáu

Sky News 28/10/2021
x

Mae Ffrainc wedi cosbi dau berson am bysgota oddi ar ei harfordir, yn ôl Llywodraeth Ffrainc.

Mae un pysgotwr wedi ei ddal gan y Weinidogaeth Forol yn Ffrainc ac un arall wedi derbyn rhybudd llafar.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Weinidgoaeth Forol: “Ddydd Mercher, mae dau gwch o Loegr wedi eu dirwyo yn ystod gwiriadau oddi ar Le Havre.”

Yn ôl Sky News, dyma’r digwyddiad diweddaraf yn yr anghydfod rhwng Ffrainc a’r DU dros hawliau pysgota yn dilyn y cytundeb Brexit.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.