Noson oeraf yr hydref hyd yma
Nos Lun oedd noson oeraf tymor yr hydref hyd yma yng Nghymru.
Fe blymiodd y tymheredd i 0°C ym Mrynbuga, Sir Fynwy ac ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin.
Ym Mhontsenni a Thrawsgoed yn y canolbarth roedd y tymheredd ychydig yn uwch, gyda 2°C a 3°C.
Dyw’r tymheredd heb blymio o dan 0 °C ers i -2°C gael ei recordio ym Mhen-bre ar 7 Mai.
DROS NOS:
— S4C Tywydd (@S4Ctywydd) November 1, 2021
- Cawodydd yn parhau ond y gwyntoedd yn gostegu
- Noson gymharol oer o dan awyr glir
- Tymereddau rhwng 0 - 6°C#S4CTywydd pic.twitter.com/vMU0iH8JTZ
Roedd hi’n noson gymharol addfwyn ar lannau'r gogledd orllewin, gydag Aberdaron yng Ngwynedd a Fali ar Ynys Môn yn gweld tymheredd o 9°C.
Daw’r noson oer ar ôl mis Hydref cynnes a gwlyb, lle'r oedd tymheredd Cymru ar gyfartaledd yn 11.4°C, 1.6°C yn uwch na’r arfer.
Gyda sawl rhybudd melyn am law trwm mewn grym yn ystod diwedd y mis, fe welodd Cymru 209mm o law yn ystod y mis, 23% yn uwch na’r cyfartaledd.