Mwy na 100 o wledydd yn ymrwymo i warchod coed y blaned
Mae dros 100 o wledydd wedi addo rhoi diwedd a cheisio gwrthdroi colli coedwigoedd erbyn diwedd 2030.
Caiff yr addewid ei gefnogi gan $19bn o arian preifat a chyhoeddus fydd yn gwarchod coedwigoedd, medd Al Jazeera.
Mae Brasil, Rwsia, Indonesia a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo ymhlith y cefnogwyr ac sydd gyda’i gilydd yn gwneud fyny am 85% o goedwigoedd y blaned.
Mae gwarchod coedwigoedd yn cael ei ystyried yn elfen greiddiol o wyrdroi newid hinsawdd gan eu bod yn tynnu allyriadau allan o’r atmosffer ac yn eu hatal rhag cynhesu’r hinsawdd.
Dyma un o ddatblygiad diweddaraf yr uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yng Nglasgow.
Darllenwch y stori’n llawn yma.