Newyddion S4C

Pob ysgol a choleg newydd i ddilyn targedau Carbon Sero-Net

02/11/2021
Disgyblion Ysgol Glantaf

Bydd yn rhaid i bob prosiect adeiladu ysgol neu goleg newydd yng Nghymru ddilyn targedau Carbon Sero-Net o ddechrau’r flwyddyn nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd disgwyl i unrhyw adeiladau newydd, gwaith adnewyddu sylweddol a phrosiectau estyniad fabwysiadu’r targedau o 1 Ionawr 2022.

Dywed y llywodraeth y bydd y cynlluniau newydd yn mynd â nhw gam yn nes at sicrhau bod Cymru yn wlad sero-net erbyn 2050.

Mae carbon sero-net yn golygu bod lefelau’r carbon sy’n cael ei gynhyrchu wrth gynnal yr adeilad ar sero neu’n negyddol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles: “Mae sicrhau bod adeiladau’r dyfodol yn gwneud cyfraniad positif yn gam pwysig y gallwn ni ei gymryd.

“Yn greiddiol i’n cwricwlwm newydd mae ein nod i gefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned."

'Degawd o weithredu'

Daw’r cyhoeddiad yn ystod uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yng Nglasgow a ddechreuodd ddydd Sul.

Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson yn trafod gydag arweinwyr gwledydd ar draws y byd am sut i sicrhau bod cynhesu byd-eang yn cael ei gyfyngu.

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford hefyd wedi teithio i Glasgow ar gyfer COP26 ond nid oes disgwyl y bydd yn rhan o’r trafodaethau ffurfiol.

Mae Mr Drakeford eisoes wedi datgan fod angen “degawd o weithredu” i fynd i’r afael â newid hinsawdd”.

Bydd y rheolau Carbon Sero-Net newydd yn cael eu cyfuno â chynllun Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif i ffurfio Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Mae disgwyl mai Ysgol Gynradd Llancarfan ym Mro Morgannwg fydd ysgol carbon sero-net gyntaf Cymru pan fydd y gwaith yn dod i ben ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.