Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

07/10/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif straeon ar fore dydd Iau, 7 Hydref.

Oedi hir mewn ambiwlansys yn ‘cael effaith niweidiol’ ar driniaeth cleifion

Mae oedi hir wrth drosglwyddo gofal tu allan i adrannau achosion brys ledled Cymru yn digwydd “yn rheolaidd”, yn ôl adolygiad newydd. Mae’r Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (WAST) wedi cyhoeddi adroddiad newydd ddydd Iau sy’n edrych yn benodol ar yr oedi wrth drosglwyddo cleifion o’r Gwasanaeth Ambiwlans i adrannau achosion brys mewn ysbytai, a sut mae hynny’n effeithio ar y cleifion.

Mam a merch yn byw ‘mewn ofn’ mewn llety dros dro

Mae Mam o Gasnewydd sy’n byw mewn llety dros dro yn dweud bod ei merch pedair oed yn byw “mewn ofn” wrth i bobl bregus wynebu “anghyfiawnder”. Mewn ymchwiliad gan Ombwdsman Gwasanaethau Cymru, mae miloedd o bobl yn dioddef "anghyfiawnder" yng Nghymru oherwydd “cyfathrebu gwael, oedi annerbyniol ac amgylchiadau anaddas.”

Barnwr yn rhoi rhwystr dros dro ar ddeddf erthylu Texas

Mae barnwr ffederal yr Unol Daleithiau wedi rhoi rhwystr dros dro ar ddeddf erthylu yn Texas. Mae'r newyddion yn golygu mai dyma'r ergyd gyfreithiol gyntaf yn erbyn y gyfraith ddadleuol.

O leiaf 20 wedi marw yn dilyn daeargryn ym Mhacistan

 

Mae o leiaf 20 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn sydd wedi taro talaith Balochistan yn ne orllewin Pacistan, yn ôl swyddogion lleol. Fe wnaeth y daeargryn, oedd yn mesur 5.7 ar raddfa Richter, daro am 03:00 amser lleol (22:00 amser y DU) ddydd Iau.

Gŵyl Focus Wales yn dychwelyd wedi hirymaros

Mae gŵyl Focus Wales yn dychwelyd i dref Wrecsam ddydd Iau. Mae’n ŵyl ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yn y dref ers 2010, ond y llynedd cafodd ei gohirio yn sgil y pandemig.

Trafod galwadau i gael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi

Bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cynnig ddydd Iau i gael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi. Yn dilyn galwadau gan y Cynghorydd Plaid Cymru yn Llandderfel Elwyn Edwards, bydd y cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ystyried rhoi diwrnod o wyliau i’w gweithlu ar 1 Mawrth bob blwyddyn o 2022 ymlaen.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf drwy gydol y dydd ar wefan ac ap Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.