Trafod galwadau i gael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi
Bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cynnig ddydd Iau i gael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Yn dilyn galwadau gan Elwyn Edwards, cynghorydd Plaid Cymru dros Landderfel, bydd y cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ystyried rhoi diwrnod o wyliau i’w gweithlu ar 1 Mawrth bob blwyddyn o 2022 ymlaen.
Mae’r cynnig hefyd yn gofyn i Gyngor Gwynedd alw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i Lywodraeth Cymru allu creu gwyliau banc.
Mae’n gofyn: “Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru.”
Dywed y cynnig gan Elwyn Edwards bod angen i’r un drefn cael ei chyflwyno yng Nghymru ag sydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r Alban eisoes yn dathlu Gŵyl Sant Andrew gyda diwrnod swyddogol o wyliau a Gogledd Iwerddon gyda Gŵyl San Padrig.
Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd brynhawn Iau 7 Hydref.
Llun: Gareth Jones