Newyddion S4C

O leiaf 20 wedi marw yn dilyn daeargryn ym Mhacistan

Al Jazeera 07/10/2021
Daeargryn Pakistan

Mae o leiaf 20 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn sydd wedi taro talaith Balochistan yn ne orllewin Pacistan, yn ôl swyddogion lleol.

Fe wnaeth y daeargryn, oedd yn mesur 5.7 ar raddfa Richter, daro am 03:00 amser lleol (22:00 amser y DU) ddydd Iau.

Dywedodd gweinidog y dalaith, Zia Langove, wrth asiantaeth newyddion Al Jazeera dros y ffôn: “Mae o leiaf 20 o bobl wedi cael eu lladd ac rydyn ni’n amcangyfrif bod tua 100 wedi’u hanafu."

Dywedodd Langove fod ymdrechion achub wedi cael eu rhwystro oherwydd tirlithriadau sydd wedi eu hachosi oherwydd y daeargryn, gan rwystro ffyrdd yn yr ardal.

“Mae cryn dipyn o dirlithriad wedi digwydd, ac ar hyn o bryd mae timau’n gweithio i glirio’r ffyrdd i’r ardal.”

Mae adroddiadau bod menyw a chwe phlentyn ymhlith y meirw.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Twitter / @ndmapk

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.