Conwy: Gwrthod cais ar gyfer caban Airbnb a gafodd ei godi heb ganiatâd
Fe ddylai caban a gafodd ei godi mewn gardd llety gwyliau yng Nghonwy heb ganiatâd cynllunio, ac sydd wedi ei gymharu â thŵr gwylio carchar" gan gymdogion, gael ei ddymchwel medd arolygydd.
Cafodd y caban tal ei adeiladu mewn gardd Airbnb newydd ar Ffordd Tan y Bryn, Llandrillo-yn-Rhos.
Fe wrthododd yr arolygydd cynllunio apêl oedd yn gwrthwynebu cais gan y cyngor lleol i ddymchwel y strwythur.
Mae’r perchennog bellach wedi cyflwyno trydydd cais cynllunio er mwyn cadw’r caban.
Ond mae rhai o drigolion yr ardal yn chwyrn yn erbyn yr adeilad gan ei gymharu â “thŵr gwylio carchar.”
Dywedodd Nick Whitmore: “Rydym yn falch iawn fod apêl y ‘tŵr gwylio carchar’ erchyll hwn wedi methu ac wedi’i gwrthod gan yr arolygydd cynllunio.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod llawn straen a phwysau i’m teulu, fy nghymdogion a minnau.”
Dywedodd ei fod wedi ei “syfrdanu” bod trydydd cais cynllunio bellach wedi cael ei gyflwyno gan ddweud nad oes unrhyw “barch” yn cael ei ddangos tuag at gymdogion.
“Yr unig gysur bach i ni yw bod y trydydd cais hwn eisoes… wedi’i argymell yn unfrydol i’w wrthod gan ein cynghorwyr tref," meddai.
“Pe bai’r cais hwnnw hefyd yn cael ei wrthod, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y tŵr gwylio carchar yn cael ei ddymchwel o’r diwedd ym mis Chwefror pan ddaw’r dyddiad cau ar gyfer gorfodi i ben.”