Treborth: Dyn yn ddi-euog o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus
Ma dyn 57 oed wedi ei gael yn ddi-euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.
Cafodd Stephen Mills ei gyhuddo yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A487 yn Nhreborth ger Bangor yng Ngwynedd ym mis Medi.
Cafodd tri o bobol ifanc yn eu harddegau anafiadau difrifol yn y digwyddad.