Dyn o Lanelwy yn euog o lofruddio ei gymydog ar Ddydd Nadolig

Harry Turner

Mae dyn 67 oed wedi cael ei ddyfarnu'n euog o lofruddio ei gymydog ar Ddydd Nadolig y llynedd yn Llanelwy.

Daeth rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon i'r casgliad bod James Hughes yn euog ddydd Gwener.

Clywodd y llys yn ystod yr achos fod James Hughes wedi curo Harry Turner, 68, gyda ffon gerdded cyn iddo farw.

Roedd Hughes yn gwadu llofruddiaeth a chyhuddiad amgen o ddynladdiad.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf.

Fe wnaeth y llys glywed sgwrs rhwng Hughes a Harry Turner o 25 Rhagfyr y llynedd a ddigwyddodd wedi i Harry Turner gwyno am synau o eiddo Hughes.

Clywodd y llys recordiad gan Hughes, lle'r oedd Harry Turner yn dweud wrtho "dwi methu anadlu", gyda Hughes yn ateb "gewch chi farw gan nad ydw iyn poeni".

Ar ôl y digwyddiad roedd James Hughes wedi dychwelyd i'w fflat ag arllwys diod boeth i'w hun.

Ffoniodd ei nai gan ddweud "dwi'n meddwl fy mod i wedi lladd rhywun" a disgrifiodd sut oedd pen Harry Turner yn gwaedu achos "dy mod i wedi ei daro gyda fy ffon gerdded newydd".

Pan ffoniodd Hughes am ambiwlans, dywedodd wrth y parafeddygon ei fod yn credu bod Harry Turner wedi dioddef trawiad ar y galon a'i fod wedi "disgyn a tharo yn erbyn y ffenest".

Roedd archwiliad post-mortem wedi canfod fod Mr Turner wedi marw o ganlyniad i asphyxia ac wedi dioddef anaf difrifol i'w wyneb a'i ben.

Llun: Harry Turner

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.