'Cyfnod pryderus': Dau fachgen 17 oed o Gaerdydd wedi eu harestio yng Ngwlad Thai
Pattaya, Gwlad Thai. Llun: Don Ramey Logan
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ôl cael gwybod bod dau fachgen 17 oed o Gaerdydd wedi cael eu harestio yng Ngwlad Thai.
Dywed yr heddlu bod swyddogion yn "ymchwilio i'r amgylchiadau a arweiniodd at y bechgyn yn teithio i Wlad Thai".
Mewn datganiad bnawn Gwener, dywedodd Heddlu'r De fod hwn yn "gyfnod pryderus iawn i'r teuluoedd a'r gymuned ehangach".
Dim ond gwybodaeth gyfyngedig sydd gan swyddogion am yr arestiadau ar hyn o bryd, ond mae swyddogion yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600200125.
