Rheolau newydd ar letyau gwyliau yn rhoi 'straen' ar deulu o Bowys
Mae dynes o Bowys yn dweud bod biliau uchel o ganlyniad i’r rheolau ar lety gwyliau hunan arlwyo wedi rhoi straen ariannol sylweddol arni hi a’i theulu.
Dywedodd Siwan Humphreys, 36, bod y biliau ar gyfer dau fwthyn mae hi’n osod allan wedi bod dros £15,000 mewn tair blynedd ac mae’n ystyried symud o’i chartref.
Yng Nghymru, os nad ydi llety hunan arlwyo yn cael ei osod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn, maen nhw’n gallu cael eu dynodi fel ail dai.
Mae hynny’n golygu bod rhaid talu treth cyngor ac mewn rhai ardaloedd premiwm ychwanegol.
Mae Llywodraeth Cymru – a gyflwynodd y rheolau – yn dweud y byddan nhw’n parhau i adolygu’r trothwy hwnnw.
Mae Siwan yn wreiddiol o bentref Carno ac wedi dychwelyd i fyw yno gyda’i phartner a’i dau o blant ar ôl cyfnod i ffwrdd.
Fe sefydlodd ddau lety gwyliau drwy adnewyddu hen feudy a garej ger cartref y teulu yn 2016.
Mae hi’n dweud nad ydyn nhw’n addas fel cartrefi i bobol fyw ynddyn nhw.
Yn 2023 fe sefydlodd Llywodraeth Cymru'r rheolau newydd ar lety hunan arlwyo.
Diwedd 2024 fe gafodd Siwan fil treth cyngor o £10,000 ar gyfer y ddau – roedd hynny’n “panic stations”, meddai a chafodd fenthyciad i’w dalu.
Mae hi’n dweud iddi gyflwyno dogfennaeth sy’n dangos ei bod wedi cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod.
O ganlyniad, fe all fod yn gymwys i dalu trethi busnes sydd yn rhatach na threth cyngor a pharhau mae’r broses honno.
Eleni, mae hi hefyd wedi cael bil ychwanegol o £5,000.
Dywedodd bod y biliau wedi rhoi pwysau ariannol arni hi a’i theulu.
“Dwi ‘di cymryd mwy o waith ac mae gen i fwy o swyddi rhan amser,” meddai.
“Jyst y straen o orfod talu’r biliau yma a ti ddim yn gwybod os wyt ti’n mynd i gael yr arian yma yn ôl ac ydi o werth aros fan hyn?”
‘Gyrru fi o’r ardal’
Mae hi’n ofni yn y dyfodol na fydd y bythynnod yn cyrraedd y trothwy ac na fydd hi’n gallu fforddio talu’r dreth cyngor ychwanegol, a’r premiwm ar ben hwnnw ym Mhowys sy’n 75%.
I lety gwyliau eiddo band D yn y sir, fe fyddai hynny’n costio dros £4,000 y flwyddyn.
“Dwi’n gallu gweld y bwriad tu ôl y polisi,” meddai Siwan. “Mae’n bwysig bod 'na lefydd i bobol fyw, yn enwedig lle fel hwn.
“Da ni ishe denu pobol i’r ardal a da ni ishe cadw pobol leol yn yr ardal hefyd, yn enwedig ardaloedd gwledig Cymraeg.
“Dydi’r polisi yma ddim yn annog fi aros o gwbl. Mae'n teimlo fel ei fod yn gyrru fi o’r ardal. Dydi'r polisi ddim yn gweithio i bawb.”
Yn ariannol, meddai, dydi ddim yn “gwneud synnwyr” i aros ac mae’r ystyried gadael yn “dorcalonnus”.
Ychwanegodd: “Y prif beth sy’n cadw ni yma ydi’r plant, maen nhw’n rili hapus.”
Beth ydi’r rheolau?
Yn flaenorol, roedd eiddo oedd ar gael i’w rhentu am o leiaf 140 diwrnod - ac yn cael ei osod am 70 - yn gymwys i dalu trethi busnes is yn hytrach na threth cyngor.
Mae’r system honno yn parhau i fodoli yn Lloegr.
Yng Nghymru, mae angen i eiddo fod ar gael i’w osod am o leiaf 252 o ddiwrnod a chael ei osod am 182.
Os na, maen nhw’n gallu cael eu dynodi fel ail gartrefi ac felly’n gorfod talu treth cyngor, ac mewn ardaloedd penodol mae yna bremiwm ychwanegol ar ben hwnnw.
Roedd y rheol yn rhan o ddeddfwriaeth i geisio cryfhau mesurau i fynd i’r afael a’r prinder tai fforddiadwy mewn rhannau o Gymru sy’n boblogaidd gyda thwristiaid a pherchnogion ail dai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y trothwy 182 diwrnod yn parhau dan adolygiad.
“Dwi’n deall bod rhai pobol yn pryderu am y sefyllfa yma,” meddai’r Gweinidog Tai, Siân Gwenllïan A.S.
“Gall yr adolygiad fod yn edrych ar eithriadau. Dydi pob achlysur ddim efallai yn gweddu ar gyfer bod yn rhan o’r stoc tai presennol, er enghraifft anheddau a (llefydd) wrth ymyl fferm.”
Yn ôl Cyngor Powys pan mae eiddo hunan arlwyo yn cael ei ddynodi fel un sydd fod i dalu treth cyngor, mae angen iddyn nhw gydymffurfio gyda hynny o dan ddeddfwriaeth.
Dywedodd Anna Nicholl, Aelod Senedd Plaid Cymru, ei bod yn bryderus nad yw'r polisi yn cyflawni ei fwriad gwreiddiol.
"Dwi ddim yn meddwl y bydd yn mynd i helpu gyda'r argyfwng tai chwaith," meddai'r aelod dros Geredigion Penfro.
Ychwanegodd nad yw nifer o'r llety gwyliau yn addas fel rhai i bobol fyw ynddyn nhw.