Newyddion S4C

Oedi hir mewn ambiwlansys yn ‘cael effaith niweidiol’ ar driniaeth cleifion

07/10/2021
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae oedi hir wrth drosglwyddo gofal tu allan i adrannau achosion brys ledled Cymru yn digwydd “yn rheolaidd”, yn ôl adolygiad newydd.

Mae’r Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (WAST) wedi cyhoeddi adroddiad newydd ddydd Iau sy’n edrych yn benodol ar yr oedi wrth drosglwyddo cleifion o’r Gwasanaeth Ambiwlans i adrannau achosion brys mewn ysbytai, a sut mae hynny’n effeithio ar y cleifion.

Mae’r oedi yn cael “effaith niweidiol” ar allu’r system i roi gofal diogel ac urddasol i gleifion, yn ôl yr arolygwyr iechyd.

Mae’r adroddiad yn edrych ar oedi a wynebodd cleifion rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, lle roedd oddeutu 185,000 o drosglwyddiadau o’r gwasanaeth ambiwlans i ysbytai ledled Cymru yn y cyfnod hwn.

Serch hynny, roedd llai na hanner ohonynt, 79,500, wedi eu cyflawni o fewn eu targed o 15 munud.

Roedd 32,699 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi lle'r oedd yr oedi wrth drosglwyddo gofal dros 60 munud, ac o’r rhain roedd 16,405 yn ymwneud â chleifion dros 65 oed.

'Goblygiadau difrifol'

Yn ôl WAST, mae hyn yn destun “pryder”, gyda llawer o oedolion hŷn yn fwy bregus ac yn wynebu risg o niwed diangen oherwydd hynny.

Dywed yr arolygwyr bod yr oedi wedi arwain at sawl ambiwlans yn aros tu allan i adrannau achosion brys am “amser hir iawn”, yn methu ymateb i argyfyngau o fewn eu cymunedau.

“Gwelsom fod oedi wrth drosglwyddo gofal yn effeithio ar allu criw ambiwlans i roi profiad cadarnhaol i gleifion. Gall hefyd gynyddu’r risg i ddiogelwch y claf, drwy oedi diagnosis a chael triniaeth, a chynyddu’r risg i bobl sy’n aros am ambiwlans yn y gymuned, gyda llai o ambiwlansys ar gael i ddiwallu eu hanghenion.”

Mae’r adolygiad yn argymell y dylai byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen i wneud gwelliannau o ran problemau llif cleifion sy'n effeithio ar oedi wrth drosglwyddo cleifion.

Gall hyn gynnwys ystyried a oes angen i WAST, byrddau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru ddilyn trywydd gwahanol i'r hyn a wnaed hyd yma wrth fynd i'r afael â'r broblem hon sy'n effeithio ar y system gyfan, yn ôl yr adolygiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “cydnabod graddfa’r heriau,” a’u bod wedi darparu £25m o gyllid ychwanegol.

Ychwanegodd y llefarydd: “Rydym yn nodi canfyddiadau’r adroddiad ac yn croesawu ei gydnabyddiad o’r gwaith sylweddol sydd yn bard ar waith i helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth gofal a iechyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.