Mam a merch yn byw ‘mewn ofn’ mewn llety dros dro
Mae Mam o Gasnewydd sy’n byw mewn llety dros dro yn dweud bod ei merch pedair oed yn byw “mewn ofn” wrth i bobl bregus wynebu “anghyfiawnder”.
Mewn ymchwiliad gan Ombwdsman Gwasanaethau Cymru, mae miloedd o bobl yn dioddef "anghyfiawnder" yng Nghymru oherwydd “cyfathrebu gwael, oedi annerbyniol ac amgylchiadau anaddas.”
Dywedodd y fam wrth ITV Cymru bod ei merch yn ei “gasáu” yno.
“Mae pobl yn cerdded i fyny ac i lawr wedi meddwi, yn gweiddi, yn bangio ar y drws yn oriau mân y bore ac yn ceisio dringo’r ffenestri, yn codi ofn arni. Dw i jyst ddim eisiau’r bywyd yma ar ei chyfer.”
Dywedodd Cyngor Casnewydd ei bod wedi gwneud “pob ymdrech” i symud pobl i gartrefi parhaol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: ITV Cymru Wales