Anthony Joshua wedi'i anafu a dau wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Nigeria
Mae'r bocsiwr Anthony Joshua wedi'i anafu a dau arall wedi eu lladd mewn gwrthdrawiad yn Nigeria, yn ôl adroddiadau.
Mae gan Joshua, 36, gysylltiadau teuluol yn Sagamu, tref yn nhalaith Ogun yn ne-orllewin Nigeria.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd Joshua fân anafiadau, ac mae dau arall wedi eu lladd.
Mewn lluniau sydd wedi eu rhannu ar-lein, mae cyn-bencampwr pwysau trwm y byd yn cael ei weld yn eistedd yng nghefn y car cyn cael ei helpu allan gan dorf o bobl.
Mae Joshua, sydd yn ymwybodol yn y lluniau, yn ymddangos mewn poen wrth gael ei gludo allan.
Mae Joshua ac eraill a gafodd eu hanafu wedi eu cludo i ysbyty.