Mam a dau blentyn wedi marw mewn tân Ddydd San Steffan

Tân Stroud

Daeth cadarnhad fod mam a'i dau blentyn wedi marw ar ôl i dân ddinistrio eu cartref yn Sir Gaerloyw ar Ŵyl San Steffan. 

Cyhoeddodd y gwasanaethau brys hynny mewn cynhadledd newyddion fore Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Brimscombe Hill ger Stroud tua 03:00 fore Gwener. 

Roedd merch saith oed, bachgen pedair oed a'u mam yn eu 40au yn gaeth y tu mewn i'r  tŷ.

Llwyddodd y tad i ddianc a chafodd ei gludo i ysbyty gerllaw.

Roedd e wedi ceisio achub ei wraig a'i blant, ond roedd y tân yn rhy ffyrnig. 

Mae'r tad yn blismon gyda Heddlu Sir Gaerloyw.  

Cafodd corff y fam ei gludo o'r cartref ddydd Sul. 

Yn y gynhadledd newyddion fore Llun, eglurodd yr heddlu fod corff un plentyn wedi ei ddarganfod, ac yn parhau i fod yn y cartref. 

Dyw'r gwasanaethau brys ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i gorff yr ail blentyn am fod cyflwr yr adeilad yn dal i fod yn beryglus.      

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Ian Fletcher wrth newyddiadurwyr y tu allan i Bencadlys Heddlu Sir Gaerloyw fod y tad a'r fam wedi cael eu deffro gan y tân ac wedi ceisio cyrraedd eu plant yn yr ystafell wely yng nghefn y cartref.   

“Fe fethon nhw â chyrraedd yr ystafell wely am fod y tân mor ffyrnig,” meddai.

“Fe aeth y tad allan o'r tŷ drwy ffenestr yr ystafell 'molchi er mwyn ceisio mynd i mewn i'r ystafell wely o'r tu allan.  

“Methodd â mynd i mewn drwy ffenestr yr ystafell wely.

Ychwanegodd Ian Fletcher: “Yna ceisiodd ddychwelyd i'r tŷ drwy ffenestr yr ystafell 'molchi, ac erbyn hynny, roedd y fflamau wedi lledaenu i'r ystafell honno.

“Fe geisiodd fynd i lawr grisiau gan geisio brwydro trwy'r drws ym mlaen y tŷ a'r drws cefn.  

“Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys bryd hynny gan geisio rheoli'r tân yn syth." 

Yn ôl Mr Fletcher, y gred yw fod y tân wedi cynnau ar y llawr gwaelod, a pharhau mae'r ymchwiliad i geisio darganfod sut y cynheuodd.   

Dyw'r heddlu ddim yn credu ei fod yn achos amheus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.