Tara Bethan: Beichiogi er i feddygon ddweud na fyddai yn gallu

S4C

Fe wnaeth Tara Bethan sylweddoli ei bod hi’n disgwyl babi ddeuddydd yn unig ar ôl i feddygon ddweud wrthi na fyddai yn gallu beichiogi.

Roedd y gantores a chyflwynydd, sy’n 41 oed, a'i gŵr Wil, wedi bod yn ceisio beichiogi ers sawl blwyddyn.

Doedd profion ddim yn codi unrhyw broblemau. Ond pan wnaeth hi raglen Radio Fama fe gododd sgwrs am y cyflwr endometriosis.  

"Dwi’n cofio meddwl, 'Hold on mae gen i’r symptomau 'ma i gyd ers o’n i yn dair ar ddeg'," meddai ar raglen Sgwrs Dan y Lloer ar S4C.  

"Y boen annioddefol 'ma am ryw dri diwrnod o bob 21 diwrnod. Ond bob tro o’n i yn mynd at y doctor o pan o’n i yn dair ar ddeg, ‘Mae hyn yn normal’ neu ‘Mae rhaid bod.. pain threshold chdi ddim yn uchel iawn'."

Ar ôl llawdriniaeth laparosgopi fe gafodd hi wybod bod ganddi'r cyflwr.

Fe benderfynodd hi a’i gŵr ymholi am driniaeth IVF. Ond fe ddywedodd y meddygon wrthi na fyddai fyth yn gallu beichiogi. 

“Dau ddiwrnod wedyn o’n i yn rili cwyno am boobs fi achos oddan nhw yn rili brifo. A nath Wil ddeud, 'Ti di checio’r calendr?' ag o’n i fel, o’n i di rhoi dim gobaith erbyn hynna," meddai.

"So nes i neud test ag odd o yn bositif a nes i 'neud un arall ag odd hwnna yn bositif. Dwi dal yn stryglo i goelio weithiau sdi."

Erbyn hyn mae eu babi wedi cyrraedd, bachgen bach o’r enw Ffredi Orig Roberts.

Swper yn y dafarn 

Mae perfformio wedi bod yn rhywbeth y mae Tara Bethan wedi ei wneud o oed cynnar. Roedd ei theulu yn bobl greadigol gyda’i nain a’i mam yn dawnsio. 

Ei thad oedd y diweddar Orig Williams, oedd yn reslo.

Mi fyddai yn cael gwersi dawnsio, canu ac actio yn blentyn. Roedd ganddi yrrwr i fynd â hi o le i le. 

“Wedyn fysa fo yn gollwng fi yn y pub yn y Black Lion yn Llanfair TH ar y ffordd adra," meddai. 

"A fanna fysa fi a mam a dad yn ymgynnull am swper bob nos. Normal oedd hynna i fi.” 

Roedd yn mynd i gystadlaethau dawnsio disgo o amgylch Prydain, yn aml yn dal bws yn gynnar yn y bore ar ei phen ei hun, ac yn dod adref yn y nos.

“O’n i jest wastad wedi neud o. Wrth gwrs,  o sbïo yn ôl, mae’n rhaid cwestiynu o’n i yn neud gormod. O’n i yn cystadlu ym mhob cystadleuaeth yn yr Eisteddfod. O’n i deffinyt yn neud gormod de, deffinyt," meddai.

Image
Tara Bethan
Mae Tara Bethan yn dweud ei bod yn hapus i weld beth fydd yn digwydd o safbwynt ei gyrfa yn y dyfodol 

Rhaglen deledu 

Yn 2008 fe aeth Tara Bethan ar y gyfres deledu 'I’d do anything' ar y BBC. Roedd y cyfansoddwr Andrew Lloyd Webber yn chwilio am Nansi ar gyfer sioe gerdd West End Oliver.

Doedd y profiad ddim yn un y gwnaeth hi fwynhau. 

“O’n i ddim yn berson digon cadarn a chryf i roi fy hun mewn sefyllfa mor vunerable," meddai.

"Dyna nath fy myta i’n fyw yn y rhaglenni byw o hwnna oedd y feirniadaeth.”

Hwnna meddai oedd “dechrau’r siwrne stryglo efo iechyd meddwl".

Yn 2009 fe fuodd Orig Williams farw yn sydyn o drawiad ar y galon. 25 oed oedd Tara Bethan ar y pryd.

“Dwi yn cofio yn glir faint nath pawb arall yn clodfori Dad helpu," meddai. "Nath o massively helpu. Oedd 'na erthygl yn yr Independent bod o 'di marw. 

"A dwi’n cofio Mam a fi jest fath â, 'Dad di hwn', y boi 'na nath fyw yn tŷ ni oedd yn lyfio eistedd ar ei wely yn ei drôns Y-fronts yn cyfri pres ac yn cael ei cuppa tea and a cakey bob prynhawn gan mam.”

Mae’n dweud nad oedd hi yn adnabod ei hun heb ei thad a’i bod hi wedi gorfod newid am ei bod hi’n “byw i blesio Dad”. 

Therapi 

Yn y deng mlynedd diwethaf mae’r gantores a’r cyflwynydd wedi newid ei delwedd. Mae’n dweud mai “rôl oedd wedi ei ddisgwyl ohonai” oedd y Tara Bethan ifanc. Doedd hi ddim yn gallu uniaethu efo’r ferch yna mwyach, meddai.

Mae hefyd wedi bod ar daith i wella ei hiechyd meddwl ac wedi cael therapi.

“O’n i yn gandryll. Rhwng Dad yn marw yn sydyn, bywyd yn newid yn sydyn, o’n i yn llawn rage," meddai.

"Nath yr anger management rili, rili helpu. Erbyn wan dwi’n teimlo bo fi di meddalu, ond mae o di cymryd blynyddoedd i fi gyrraedd y pwynt yma.”

Yoga a myfyrio mae’n dweud sydd wedi bod o gymorth mawr iddi.

Roedd yna gyfnod pan nad oedd hi yn gallu camu ar lwyfan. Byddai yn cael symptomau corfforol oedd yn ei rhwystro rhag gwneud.

Ond fe ddaeth yn gantores oedd yn cefnogi Charlotte Church am gyfnod. Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon oedd yr enw ar y sioe fyw lle byddai Charlotte Church yn perfformio gydag aelodau eraill o'r band yn cefnogi. 

Fe ofynodd y gantores i’r cantorion oedd yn ei chefnogi wneud cân yr un. Doedd Tara Bethan ddim yn awyddus i wneud ond fe gytunodd i wneud rap. Yn y pendraw, fe ddechreuodd ganu. 

Tara Bandito 

Mae erbyn hyn yn perfformio o dan yr enw Tara Bandito. Roedd Bandito yn enw roedd ei thad yn defnyddio pan yn reslo. 

"Y prif rheswm oedd pan dwi isio mynd ar y llwyfan a pan dwi'n Tara Bandito dwi fatha, 'Let's have you'," meddai.

"A dwi ddim yn hynna pan dwi'n Tara Bethan. A fel 'na oedd Dad. 

"So mae'n neis gallu dod â hwnna yn ôl yn fyw ar y llwyfan, wedyn rhoid fo i gadw efo'r sequins a cau'r cwpwrdd." 

Er ei bod wedi gorfod ail adeiladu ei hun, mae’n ddiolchgar.

“Odd o werth o. Achos pan dwi ar y llwyfan 'na a ma pobl yn canu lyrics fi nôl," meddai.

"A ti’n gwbod mae’r lyrics 'na am pan oedd bywyd yn rili fel rough, ond maen nhw yn canu fo efo fi fel, 'Ie dwi’n teimlo fo efo ti'.” 

Gwyliwch Sgwrs Dan y Lloer: Tara Bethan am 20:00 ar S4C nos Lun, 29 Rhagfyr. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.