Dyn wedi marw ar draeth yng Nghastell-nedd Port Talbot

Traeth Aberafan

Mae dyn 50 oed wedi marw ar ôl mynd i mewn i'r dŵr ar draeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Aberafan am 16.25 ddydd Mercher yn dilyn adroddiad bod dyn angen cymorth ar ôl mynd i mewn i'r dŵr yno.

Roedd Gwylwyr y Glannau, yr Ambiwlans Awyr a pharafeddygon hefyd wedi cael eu galw i'r lleoliad.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r dyn o Gastell-nedd Port Talbot yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod. 

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.