Trump: 'Cynnydd wedi ei wneud' yn nhrafodaethau Wcráin ond 'problemau yn parhau'

Trump a Zelensky yn Florida

Mae Donald Trump a Volodymyr Zelensky wedi dweud fod cynnydd wedi ei wneud i geisio dod â rhyfel Wcráin i ben yn ystod trafodaethau yn Florida, ond fe ychwanegodd Arlywydd UDA fod "un neu ddwy broblem ddadleuol yn parhau".

Fe bwysleisiodd Mr Trump fod un o'r rhain yn ymwneud â thiriogaeth, ac mae Rwsia yn y gorffennol wedi mynnu fod Wcráin yn rhoi mwy o dir iddynt.

Wrth annerch y wasg yn Mar-a-Lago, dywedodd Mr Zelensky eu bod nhw wedi dod i gytundeb ar "90%" o gynllun heddwch 20 pwynt. 

Ychwanegodd y byddai timau o UDA ac Wcráin yn cwrdd yr wythnos nesaf ar gyfer trafodaethau pellach ar faterion i geisio dod â'r rhyfel rhwng ei wlad a Rwsia i ben.

Fe ddechreuodd Rwsia ymosod ar Wcráin yn mis Chwefror 2022, ac mae Moscow ar hyn o bryd yn rheoli tua 20% o diriogaeth Wcráin.

Mae cynnig i droi rhanbarth y Donbas yn nwyrain Wcráin, sy'n cael ei reoli'n helaeth gan Rwsia ar hyn o bryd, i fod yn barth dadfilwrol yn parhau "heb ei ddatrys" yn ôl Mr Trump. 

Ychwanegodd y gallai trafodaethau rhwng yr Unol Daleithiau, Rwsia, ac Wcráin ddigwydd, ond dim ond “ar yr amser iawn”.

Yn gynharach, fe gafodd Mr Trump alwad ffôn gydag Arlywydd Rwsia Vladimir Putin, a dywedodd Arlywydd America ei fod yn credu bod arweinydd Rwsia "eisiau i Wcráin lwyddo".

Ar yr un pryd, fe wnaeth Mr Trump gydnabod nad oedd gan Moscow fawr o ddiddordeb mewn cadoediad a fyddai'n caniatáu i Wcráin gynnal refferendwm.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.