Gyrrwr wedi marw ar ôl taro yn erbyn wal yng Nghwm Cynon
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr 41 oed farw ddydd Sul, ddeuddydd wedi iddo daro yn erbyn wal ym Mhenderyn, Cwm Cynon.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Nheras Trebanog a chafodd y gwasanaethau brys eu galw yno toc cyn 10:30 Ddydd San Steffan.
Cyhoeddodd Heddlu'r De fod y dyn wedi marw o'i anafiadau yn yr ysbyty ddydd Sul.
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r rhif 2500407622