Newyddion S4C

Gŵyl Focus Wales yn dychwelyd wedi hirymaros

07/10/2021

Gŵyl Focus Wales yn dychwelyd wedi hirymaros

Mae gŵyl Focus Wales yn dychwelyd i dref Wrecsam ddydd Iau.

Mae’n ŵyl ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yn y dref ers 2010, ond y llynedd cafodd ei gohirio yn sgil y pandemig.

Dywedodd Neal Thompson, cyd-sylfaenydd Focus Wales bod hi’n braf gallu trefnu’r ŵyl o’r diwedd ar ôl blwyddyn anodd i’r diwydiant.

“’Da ni wedi bod yn disgwyl neud o ers mis Mai 2020. ’Da ni wedi bod yn lwcus i allu gohirio’r ŵyl, a chadw lot o’r perfformwyr oedd wedi cytuno i chwarae yn yr ŵyl wreiddiol.

“’Da ni’n ffodus o wedi cario mlaen mynd yn y cyfamser ac ein bod ni rŵan mewn sefyllfa lle da ni’n gallu cyflwyno'r ŵyl fel da ni isio.

“Ond ma' Covid wedi cael effaith amlwg arnom ni a’r bandiau i gyd, ma’ jyst yn neis cael cynnal yr ŵyl eto. Dim jysd o safbwynt ni ond o safbwynt y perfformwyr a phawb sy’n gweithio yn y cefndir.

“Ma’n neis cael gweld pobl yn dod nôl i’r gwaith a neud y stwff ma’ nhw’n isio neud.”

Eleni mae’r ŵyl yn nodi eu 10fed blwyddyn gan groesawu dros 15,000 o bobl i'r dref.

Bydd dros 250 fandiau yn chwarae mewn 12 lleoliad gwahanol wedi eu gwasgaru o gwmpas y dref.

Bydd hefyd sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, ffilm a digwyddiadau celfyddydol yn cael ei gynnig drwy gydol yr ŵyl.

Cysylltiadau rhyngwladol

Bydd bandiau ledled y byd yn cael eu croesawu i Wrecsam yn ystod y tridiau nesaf, gan roi cyfle i’r ŵyl fanteisio ar gysylltiadau rhyngwladol.

Er bod Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dod yn adnabyddus am ei chysylltiadau dros y ffin yn ddiweddar, mae’r ŵyl Focus wedi bod ar flaen y gad yn ôl Mr Thompson.

“Wel ‘da ni wedi bod yn cyflwyno bandiau o Ganada ers talwm, felly ni oedd yna gyntaf rili... jôc.

“Dwi’n siŵr bod y berthynas wedi tynnu llwyth o sylw at Wrecsam a gobeithio be ‘da ni’n neud.

“Mae ‘na berthynas gref yn barod rhwng be da ni’n wneud a diwydiant diwylliannol Canada, da ni yn cyflwyno loads o fandiau o Ganada a'r ffordd arall hefyd."

Bydd Focus Wales yn cael ei gynnal rhwng dydd Iau 7 Hydref a dydd Sadwrn 9 Hydref.

Llun: Focus Wales

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.