Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

06/10/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Mercher, 6 Hydref.

Boris Johnson am feirniadu ei ragflaenwyr Torïaidd am ‘ddiffyg hyder’

Fe fydd Boris Johnson yn cloi cynhadledd ei blaid ddydd Mercher drwy gyhuddo ei ragflaenwyr Torïaidd o fod â diffyg hyder i fynd i’r afael â phroblemau mawr. Yn ôl adroddiadau, fe fydd y Prif Weinidog yn addo newid cyfeiriad “hir-ddisgwyliedig”, gyda chyflogau uwch i bawb ac yn addo dod â’r gwahaniaeth rhwng y gogledd a’r de i ben.

Ffosil o chwarel Gymreig yw’r deinosor hynaf o’i fath i’w ddarganfod ym Mhrydain

Dros hanner canrif ers cael eu darganfod mewn chwarel yng Nghymru, mae pedwar darn bach o ffosil wedi eu henwi'n rhan o rywogaeth newydd o ddeinosor. Mae ymchwilwyr yn Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain yn dweud mai Pendraig milnerae yw’r deinosor sy’n bwyta cig hynaf erioed i gael ei ddarganfod yn y DU.

Facebook yn rhoi ‘elw cyn pobl’ ac yn niweidio plant, yn ôl cyn aelod staff

Mae Facebook yn rhoi “elw cyn pobl”, yn niweidio plant ac yn ansefydlogi democratiaeth, mae ‘chwythwr chwiban’ wedi honni mewn tystiolaeth i Gyngres yr Unol Daleithiau. Dywedodd Frances Haugen fod Facebook yn gwybod eu bod yn llywio defnyddwyr ifanc tuag at gynnwys niweidiol a bod eu ap Instagram “fel sigaréts” ar gyfer plant dan 18 oed, yn ôl The Guardian.

Graffiti gwrth-Semitiaidd yn gwadu’r Holocost wedi ei ddarganfod yn Auschwitz

Mae graffiti gwrth-Semitiaidd a sloganau sy’n gwadu’r Holocost wedi ei ddarganfod yn Auschwitz. Fe gafodd y fandaliaeth ei ddarganfod mewn naw adeilad yn yr hen wersyll crynhoi ddydd Mawrth, yn ôl y corff sy’n rhedeg y safle.

Y Llywodraeth yn ennill pleidlais ar basys Covid-19 o drwch blewyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ennill pleidlais dyngedfennol yn y Senedd i gyflwyno pasys Covid-19 gorfodol yng Nghymru. Yn dilyn pleidlais gan aelodau'r Senedd ddydd Mawrth, llwyddodd y Llywodraeth i sicrhau mwyafrif o bleidleisiau i weithredu'r cynllun.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf drwy gydol y dydd ar ap a gwefan Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.