Newyddion S4C

Y Llywodraeth yn ennill pleidlais ar basys Covid-19 o drwch blewyn

05/10/2021
Clwb nos

Mae Llywodraeth Cymru wedi ennill pleidlais dyngedfennol yn y Senedd i gyflwyno pasys Covid-19 gorfodol yng Nghymru.

Yn dilyn pleidlais gan aelodau'r Senedd ddydd Mawrth, llwyddodd y Llywodraeth i sicrhau mwyafrif o bleidleisiau i weithredu'r cynllun.

Roedd cryn ddyfalu cyn y bleidlais y byddai'r cynnig yn cael ei drechu ar ôl i Blaid Cymru gyhoeddi na fyddai'r blaid yn cefnogi'r cynnig.

Ond yn y pen draw, pleidleisiodd 28 o aelodau'r Senedd o blaid y cynnig, a 27 yn ei erbyn.

Y cynnig gan y llywodraeth oedd y byddai'r pàs yn orfodol i unrhyw un dros 18 oed sydd am fynd i glybiau nos, digwyddiad lle mae angen sefyll tu fewn ar gyfer mwy na 500 o bobl, digwyddiad lle mae angen sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, ac unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys dros 10,000 o bobl.

Roedd hynny'n cynnwys digwyddiadau chwaraeon hefyd.

Ym mis Medi, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Rydyn ni’n gobeithio y bydd cyflwyno'r gofyniad i ddangos Pàs Covid yn helpu i gadw lleoliadau a digwyddiadau – llawer ohonynt ond wedi dechrau masnachu eto yn ddiweddar – ar agor.

"Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu Cymru wrth i’r hydref nesáu." 

Cyn y bleidlais ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Plaid Cymru y byddai'r blaid yn gwrthod cynnig eu cefnogaeth i weithredu'r pàs.

Dywedodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS bod y cynnig gan Lywodraeth Cymru yn "codi mwy o gwestiynau nag atebion." 

"Mae tystiolaeth annigonol ac ychydig iawn o fanylion ar sut y byddai'n gweithio'n ymarferol.

"Pan ry'n ni wedi cefnogi cyfyngiadau, ry'n ni wedi gwneud hynny pan fo'r dystiolaeth yn glir o ran yr effaith bositif y byddai'r mesurau hynny'n eu cael," ychwanegodd.

“Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau a dydyn ni ddim wedi cael ein darbwyllo. Am y rheswm hynny, rydym yn teimlo na allwn gefnogi'r cyfyngiadau hyn heddiw." 

Roedd y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi datgan cyn y bleidlais bod y cynllun yn "siomedig".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.