Newyddion S4C

Angen Pàs Covid-19 i ddigwyddiadau yng Nghymru o fis Hydref ymlaen

17/09/2021
pobl ar eu ffons

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd angen i bobl ddangos Pàs Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Democriatiaid Rhyddfrydol Cymru wedi disgrifio'r penderfyniad fel un "siomedig". 

Wrth siarad yn ystod diweddariad y llywodraeth ar reoliadau Covid-19 ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd na fydd unrhyw gyfyngiadau newydd yn dod i rym am y tair wythnos nesaf gyda'r lefel rhybudd yn parhau yn sero.

Fe fydd yr Alban yn cyflwyno pasbortau brechu o 1 Hydref, ond mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Pàs Covid-19 yn hytrach na phasbortau yn golygu y bydd modd i bobl ddefnyddio canlyniadau negyddol profion llif unffordd hefyd i gael mynediad i ddigwyddiadau, yn ogystal â'u statws brechu.

Dywedodd Mr Drakeford fod y cam o gyflwyno'r angen am bàs coronafeirws wedi ei wneud mewn ymgais i geisio rheoli ymlediad yr haint, sydd ar gynnydd ar hyn o bryd. Daw'r angen i am bàs Covid-19 i rym ar 11 Hydref. Bydd yn golygu y bydd angen i bobl dros 18 oed gael Pàs i fynd i’r digwyddiadau canlynol:

  • Clybiau nos
  • Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau
  • Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl.   

Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs Covid-19 y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechu yn ddiogel. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.

Wrth gyhoeddi'r angen am bàs Covid-19, dywedodd Mark Drakeford: "Ledled Cymru, mae achosion o’r coronafeirws wedi codi i lefelau uchel iawn dros yr haf wrth i ragor o bobl ddod at ei gilydd a chyfarfod ac, yn drasig, mae rhagor o bobl yn marw o'r feirws ofnadwy hwn.

"Y cyngor cryf iawn rydyn ni wedi’i gael gan ein cynghorwyr gwyddonol yw cymryd camau cynnar i atal heintiau rhag cynyddu ymhellach.

"Y peth olaf rydyn ni am ei weld yw rhagor o gyfyngiadau symud a busnesau yn gorfod cau eu drysau eto. Dyna pam mae rhaid inni gymryd camau bach ond ystyrlon yn awr i reoli lledaeniad y feirws a lleihau'r angen am fesurau llymach yn nes ymlaen."

Image
Mark Drakeford

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae gennym lefelau uchel o'r feirws yn ein cymunedau ac, er bod ein rhaglen frechu wych wedi helpu i atal miloedd yn rhagor o bobl rhag mynd yn ddifrifol wael neu farw, mae'r pwysau ar y GIG yn cynyddu.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd cyflwyno'r gofyniad i ddangos Pàs Covid yn helpu i gadw lleoliadau a digwyddiadau – llawer ohonynt ond wedi dechrau masnachu eto yn ddiweddar – ar agor.

"Mae dangos Pàs COVID eisoes yn rhan o'n hymdrech ar y cyd i gadw busnesau ar agor, ac mae rhai digwyddiadau mawr, fel gŵyl lwyddiannus y Dyn Gwyrdd, yn eu defnyddio. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl fusnesau yr effeithir arnynt i sicrhau bod y system hon yn cael ei chyflwyno a'i gweithredu'n ddidrafferth.

"Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu Cymru wrth i’r hydref nesáu." 

Penderfyniad 'siomedig'

Mae Democriatiaid Rhyddfrydol Cymru wedi disgrifio'r penderfyniad i gyflwyno Pàs Covid-19 fel un "siomedig". Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y blaid: “Rwy’n deall bod llawer o bobl eisiau mynd yn ôl at ymdeimlad o normalrwydd, ond nid pasbortau brechlyn yw’r ffordd i wneud hyn ac mae angen i ni fod yn ofalus ynghylch y cynsail a osodwyd ganddynt.

"Cardiau adnabod meddygol ydyn nhw mewn dim ond enw a bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn arwain y frwydr yn erbyn eu cyflwyno.

“Byddai cyflwyno’r cardiau yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd gofyn i chi i ddarparu eich data meddygol preifat i ddieithriaid i fwynhau
rhyddid yn ein cymdeithas, ac eto nid yw mewn gwirionedd yn helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo. Mae pasbortau brechlyn yn groes i'n rhyddid sifil, a byddant yn gwahaniaethu yn anghymesur yn erbyn cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig sydd, hyd yma, wedi bod yn fwy petrusgar nag eraill i gael eu brechu."

'Gweithredu'n llawer rhy hwyr'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Dyma dro pedol siomedig arall gan Brif Weinidog Llafur.

"Dywedodd wrthyf ym mis Gorffennaf ei fod yn erbyn y syniad o bobl yn gorfod dangos pasbort Covid i fynd mewn i leoliadau neu i fynychu digwyddiad yng Nghymru.  

“Mae cynnwys yr elfen prawf llif unffordd yn lleddfu un maes sy’n peri pryder ond nid i feysydd eraill, yn enwedig o ran effeithiolrwydd cyffredinol y mesur hwn a’r effaith y bydd yn ei gael ar fusnesau, swyddi ac adferiad economaidd Cymru.
 
“I nifer, hyd yn oed y rhai sydd yn cefnogi'r canllawiau yma, mae'n edrych fel enghraifft berffaith o weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn gweithredu'n llawer rhy hwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.