Ffosil o chwarel Gymreig yw’r deinosor hynaf o’i fath i’w ddarganfod ym Mhrydain
Dros hanner canrif ers cael eu darganfod mewn chwarel yng Nghymru, mae pedwar darn bach o ffosil wedi eu henwi'n rhan o rywogaeth newydd o ddeinosor.
Mae ymchwilwyr yn Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain yn dweud mai Pendraig milnerae yw’r deinosor sy’n bwyta cig hynaf erioed i gael ei ddarganfod yn y DU.
Mae eu dadansoddiad yn awgrymu bod y deinosor yn bodoli dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Wedi ei ddarganfod yn y Bont-faen, mae enw’r rhywogaeth, Pendraig, wedi ei ysbrydoli gan y Gymraeg.
Mae'r deinosor yn cael ei ddisgrifio fel anifail tebyg i iâr, gyda'r creadur ond yn fetr o hyd, a hynny'n cynnwys ei gynffon.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain