Darganfod corff dynes mewn coetir ger Penrhyndeudraeth
Mae corff dynes wedi cael ei ddarganfod mewn coetir oddi ar y ffordd ger Penrhyndeudraeth.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y corff wedi ei ddarganfod yn y coetir ger yr A496 yn Llandecwyn ddydd Mawrth.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod.
Ychwanegodd yr heddlu nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae'r crwner hefyd wedi cael gwybod.
Fe wnaeth yr heddlu ddiolch i yrwyr a'r gymuned leol am eu hamynedd tra bod y ffordd wedi cau.
Mae'r A496 bellach wedi ail-agor.