Rygbi: Gêm dyngedfennol i Gymru yn erbyn Canada

Tîm rygbi menywod Cymru yn ymarfer

Mae angen i Gymru chwarae gyda "balchder ac egni" meddai'r prif hyfforddwr Sean Lynn wrth herio Canada yn eu gêm dyngedfennol yng Nghwpan Rygbi’r Byd y Menywod ddydd Sadwrn.

Fe fydd yn rhaid i Gymru guro Canada, sy’n ail ar restr detholion y byd, yn Salford os am unrhyw siawns o gyrraedd y rowndiau nesaf ar ôl colli yn erbyn yr Alban wythnos yn ôl.

Mae Lynn wedi gwneud saith o newidiadau o’r tîm wnaeth golli mor siomedig yn erbyn yr Alban.

Mae rhai o’r newidiadau oherwydd anafiadau ond y rhan fwyaf yn dactegol wrth i Lynn geisio chwistrellu ychydig o frwdfrydedd a gobaith i’r chwaraewyr yn erbyn un o ffefrynnau’r gystadleuaeth.

Roedd y golled i’r Alban yn un seicolegol i Gymru gan ystyried eu bod nhw wedi targedu i ennill y gêm hon cyn y gystadleuaeth.

Roedd darogan y byddai hon yn frwydr rhwng blaenwyr Cymru ag olwyr yr Alban. Ond roedd yr Alban yn drech na Chymru ymhob elfen gyda’u blaenwyr yn cadw’r gêm i symud gan roi sylfaen i’w holwyr redeg yn rhemp.

Nid oedd amddiffyn Cymru ar ei orau chwaith gyda thaclo gwan yn ildio ceisiau.

Fe fydd Cymru’n siwr o weld colli gwaith diwyd Alex Callender yn ardal y dacl.

Mae hi allan gydag anaf ac fe fydd yn rhaid i’r mewnwr Keira Bevan fod yn sicr gyda’i chicio tactegol.

Codi braw

Fe sgoriodd Canada 11 cais i gyd wrth guro Ffiji yn eu gêm agoriadol gyda’r cefnwr Julia Schell yn croesi am chwech.  

Mae canolwr Cymru Carys Cox yn sicr o wybod am fygythiad Schell gan eu bod yn gyd-chwaraewyr gydag Ealing Trailfinders.

Mae’r ateb yn syml i Gymru – rhaid ennill os am fynd ymlaen i’r rowndiau nesaf.

Yr hyn fydd yn codi braw ar Gymru yw’r modd y gwnaeth Canada guro Ffiji wrth gyd-chwarae a thrafod y bêl gyda chyflymdra.

Cymru v Canada, bnawn Sadwrn am 12:00.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.