Facebook yn rhoi ‘elw cyn pobl’ ac yn niweidio plant, yn ôl cyn aelod staff
06/10/2021Mae Facebook yn rhoi “elw cyn pobl”, yn niweidio plant ac yn ansefydlogi democratiaeth, mae ‘chwythwr chwiban’ wedi honni mewn tystiolaeth i Gyngres yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Frances Haugen fod Facebook yn gwybod eu bod yn llywio defnyddwyr ifanc tuag at gynnwys niweidiol a bod eu ap Instagram “fel sigaréts” ar gyfer plant dan 18 oed, yn ôl The Guardian.
Dywedodd y cyn-weithiwr Facebook nad oedd gan y cwmni ddigon o staff i gadw’r platfform yn ddiogel.
Fe ymddangosodd Ms Haugen yn Washington ddydd Mawrth ar ôl datgelu mai hi oedd ffynhonnell cyfres o ddatguddiadau yn y Wall Street Journal fis diwethaf oedd yn seiliedig ar ddogfennau mewnol Facebook.
Darllenwch y stori’n llawn yma.