Neges Nadolig y Brenin yn annog cymunedau i ddod at ei gilydd mewn cyfnodau o ansicrwydd
Mae neges Nadolig y Brenin eleni wedi cael ei ysbrydoli gan gyfnod y rhyfel, gan alw ar gymunedau i ddod at ei gilydd mewn byd sy'n gynyddol ranedig ac fe wnaeth annog pobl i ddod i "adnabod eu cymdogion."
Roedd ei araith draddodiadol, a recordiwyd yn Abaty Westminster, yn cofio 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ eleni, ac fe ddywedodd na ddylem fyth "golli golwg" ar y gwerthoedd y daeth â "chymunedau at ei gilydd yn wyneb her mor fawr".
Wrth siarad yng Nghapel y Foneddiges ganoloesol yn yr abaty, fe aeth y Brenin ymlaen i ganmol "dewrder digymell" y rhai sy'n helpu mewn argyfyngau, fel ymosodiad Traeth Bondi yn Awstralia.
Roedd côr o Wcráin yn perfformio carol yn gefndir i'r neges, gyda llawer o gantorion y côr bellach yn byw yn y DU oherwydd y rhyfel sy'n parhau yn eu mamwlad.
Roedd yr araith yn cynnwys galwad am dawelwch a llonyddwch wrth i'r "byd ymddangos yn troelli'n gyflymach nag erioed", gyda'r Brenin Charles yn dyfynnu geiriau'r bardd T.S. Eliot am ddod o hyd i "bwynt llonydd yn y byd sy'n troi".
Dywedodd llefarydd ar ran y Palas, fod hyn yn gyfeiriad at effaith gymdeithasol technoleg newydd ar gymunedau, ac y gallai pobl ystyried "dadwenwyno digidol".
Am yr ail flwyddyn yn olynol, fe gyflwynwyd y neges mewn lleoliad i ffwrdd o balas brenhinol, gyda'r Brenin yn defnyddio'r capel yn yr abaty i siarad am "bererindod" bywyd a'r gwersi ar gyfer yr amseroedd presennol.
Yn siarad o flaen coed Nadolig a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer cyngerdd carolau Tywysoges Cymru yn yr Abaty, fe siaradodd Charles am bwysigrwydd cydlynant cymunedol a phontio rhaniadau.
"Wrth i mi gwrdd â phobl o wahanol ffydd, rwy'n ei chael hi'n galonogol iawn clywed faint sydd gennym yn gyffredin," meddai'r Brenin.
"Gyda'r amrywiaeth fawr yn ein cymunedau gallwn ddod o hyd i'r nerth i sicrhau bod y peth iawn yn trechu'r peth anghywir." Ychwanegodd.