Angen i Wcráin a Rwsia 'ddod o hyd i'r dewrder' i gynnal trafodaethau heddwch
Mae'r Pab Leo wedi annog gwladwriaethau Wcráin a Rwsia i ddod o hyd i'r "dewrder" i gynnal trafodaethau uniongyrchol i ddod â'r rhyfel i ben.
Fe ddaeth galwad y Pab yn ystod ei ddefosiwn Nadolig cyntaf o flaen torf yn Sgwâr San Pedr yn Rhufain.
Galwodd am ddiwedd i'r gwrthdaro sy'n digwydd ledled y byd yn ystod ei anerchiad 'Urbi et Orbi', sy'n draddodiad blynyddol i'r Pab ar Ddydd Nadolig o flaen addolwyr sydd wedi ymgynnull yn Ninas y Fatican.
Wrth siarad am Wcráin, dywedodd y Pab: "Boed i sŵn arfau ddod i ben, a bydded i'r partïon dan sylw, gyda chefnogaeth ac ymrwymiad y gymuned ryngwladol, ddod o hyd i'r dewrder i ymgysylltu mewn deialog ddiffuant, uniongyrchol a pharchus."
Daw ei apêl wrth i drafodaethau dan arweiniad America ar gytundeb i ddod â'r ymladd i ben barhau.
Mae America wedi ceisio arwain trafodaethau i gyrraedd cadoediad parhaol rhwng Kyiv a Moscow, gan alw ar y ddwy wlad i ddod â'r ymladd i ben.
Fe aeth y Pab Leo hefyd ymlaen i alw am heddwch mewn gwledydd eraill ar draws y byd sy'n byw dan gysgod rhyfel a gwrthdaro, gan gynnwys Gwlad Thai a Cambodia yn ne-ddwyrain Asia.